Dewislen

Cymorth a chyngor cyflogwyr

Mae 'Dod o hyd i swydd' yn wasanaeth am ddim gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ble y gallwch postio swyddi.

I greu cyfrif cyflogwr ac i hysbysebu swydd, cliciwch yma: https://findajob.dwp.gov.uk/employer

  • Ewch i’r dudalen Creu cyfrif. Rhowch eich e-bost i mewn a gosodwch gyfrinair.
  • Byddwch yn derbyn e-bost. Cliciwch y ddolen yn yr e-bost i actifadu eich cyfrif.
  • Bydd y ddolen yn dod i ben o fewn 24 awr. Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost, edrychwch yn eich ffolder junk i weld os yw yno. Os ydych yn cael anhawster i dderbyn y ddolen, yna ychwanegwch noreply@email.findajob.dwp.gov.uk at eich rhestr anfonwyr diogel.

Os yw’r ddolen wedi dod i ben bydd angen i chi ddechrau’r broses cofrestru eto. Gallwch ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost.

Ar ôl i chi greu eich cwmni a phostio'ch swydd gyntaf, bydd eich cyfrif yn cael ei ddilysu gan DWP cyn y gellir gweld y swydd ar ein gwefan. Fel arfer, bydd eich cyfrif yn cael ei ddilysu o fewn 1 diwrnod gwaith oni bai bod angen gwybodaeth bellach arnom (pryd y byddwch yn cael e-bost gennym; cofiwch wirio'ch ffolderi junk a spam). Yn ystod cyfnodau prysur, gall gymryd ychydig mwy o amser i wirio'ch cyfrif, felly gofynnwn i chi aros 3 diwrnod gwaith cyn cysylltu â ni i wirio cynnydd.

Fel arfer bydd eich cyfrif yn parhau i fod yn fyw gyda defnydd rheolaidd. Os na fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif am 12 mis, byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych y bydd eich cyfrif yn cael ei ddileu os na fyddwch yn cymryd unrhyw weithred o fewn cyfnod penodol o amser.

Hysbysebu swyddi gwag

Byddwch yn ofalus o'r iaith rydych yn ei defnyddio yn eich hysbyseb swydd wag. Dylech osgoi unrhyw iaith a allai fod yn wahaniaethol neu'n sarhaus.

Er enghraifft:

  • mae 'barforwyn' a 'barmon' yn dynodi rhyw
  • mae 'ymddeol yn ddiweddar' a 'gweithiwr iau swyddfa' yn awgrymu oedran
  • gall 'ffit yn gorfforol' atal ymgeiswyr sy’n anabl

Weithiau rydym yn adolygu’r hysbyseb swydd cyn iddi fynd yn fyw. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd eich hysbyseb mewn statws o 'aros am wiriadau'. Ein nod yw adolygu hysbysebion swyddi o fewn diwrnod gwaith.

Creu copi o hysbyseb swydd

Os hoffech bostio hysbyseb swydd newydd yn gyflym trwy ddefnyddio cynnwys hysbyseb sy'n bodoli eisoes, gallwch wneud hyn trwy greu copi o'r hysbyseb.

Gallwch greu copi o hysbyseb byw trwy glicio ar ‘Golygu’ yn rhestr swyddi eich cwmni ac yna dewis ‘Creu copi’ ar waelod y sgrîn. Yna, gallwch olygu cynnwys yr hysbyseb yn ôl yr angen a'i phostio. Sylwch y bydd hyn yn creu hysbyseb newydd gydag URL a rhif adnabod newydd.

Gallwch hefyd greu copi o hysbyseb sydd wedi’i dileu trwy glicio ar ‘Gweld’ yn rhestr swyddi eich cwmni ac yna dewis ‘Creu copi’ ar waelod y dudalen. Yna, gallwch olygu cynnwys yr hysbyseb yn ôl yr angen a'i phostio. Sylwch na ellir copïo hysbysebion sydd wedi'u dileu gan ein tîm cymorth.

Sylwch hefyd na ellir copïo hysbysebion sydd wedi'u swmp lwytho â llaw.

Cyfieithu (Saesneg / Cymraeg)

Os hoffech wneud cais am gyfieithiad Cymraeg / Saesneg o gynnwys eich hysbyseb, gwnewch gais trwy ein ffurflen Cysylltu â ni drwy ddewis yr opsiwn "Rwy'n Gyflogwr ac rwyf angen help i hysbysebu fy hysbysebion swyddi". Rhowch y penawd "Cais cyfieithu cynnwys hysbysebion Cymraeg / Saesneg" ar eich neges a rhoi teitl yr hysbyseb a'r disgrifiad i'w gyfieithu. Bydd y cynnwys wedi'i gyfieithu yn cael ei ddychwelyd atoch drwy e-bost, y gallwch ei ddefnyddio i bostio'ch hysbyseb drwy ddefnyddio'r dulliau safonol. Nodwch rydym ond yn cyfieithu hysbysebion i'r Gymraeg sydd naill ai wedi'u lleoli yng Nghymru neu sydd angen sgiliau iaith Gymraeg.

Swmp-lwytho swyddi

Gallwch ychwanegu swyddi lluosog trwy drosglwyddo ffeil diogel o'r enw 'swmplwytho'.

Mae'r cyfarwyddiadau a'r manylion technegol ar gael yma

Nid oes isafswm i'r nifer o swyddi y gallwch eu hysbysu yn y modd hwn, neu ba mor aml.

Fodd bynnag, mae angen i chi ddilyn nifer o gamau technegol i'w ddefnyddio. Felly, os nad ydych yn hysbysu llawer o swyddi yn rheolaidd, efallai y bydd yn well gennych hysbysu swyddi fesul un.

Os ydych eisiau bwrw ymlaen, gallwch ofyn am eich manylebau swmplwytho o'ch cyfrif cyflogwr. Ar hyn o bryd mae ein darparwr gwasanaeth yn rhoi sylw i gyfriflenni swmp-lwytho ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Bydd y cyfriflenni yn ymddangos o fewn eich cyfrif o dan yr adran 'swmp-lwytho' (rhaid i chi fod yn Weinyddwr i weld yr adran hon).

Bydd yr holl ddata yn y ffeiliau wedi'u prosesu a'r ffeiliau 'outbound' yn eich cyfrif SFTP yn cael eu dileu ar ôl 30 diwrnod o gael eu huwchlwytho a'u prosesu. Noder bod hyn er mwyn i'r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion GDPR ac i gadw'r perfformiad gorau posibl.

Rheoli eich cyfrif

O fewn eich cyfrif gallwch hysbysebu, golygu a dileu swyddi.

Os mai chi yw prif weinyddwr y cyfrif, yna gallwch ychwanegu recriwtwyr eraill. Cliciwch ar 'ychwanegu recriwtiwr', llenwch yr holl feysydd gofynnol ac anfon y ffurflen. Yna bydd y system yn cynhyrchu e-bost actifadu i gyfeiriad e-bost y recriwtiwr y mae'n rhaid gweithredu arno o fewn 24 awr neu bydd y ddolen actifadu yn dod i ben. Gallwch hefyd ychwanegu cwmnïau eraill, er enghraifft, os ydych yn berchen ar fwy nag un busnes.

Noder mai dim ond un prif weinyddwr all fod yn gysylltiedig â chyfrif cwmni. Os mai chi yw prif weinyddwr cyfrif cwmni ac nad ydych yn dymuno bod mwyach, gallwch wneud recriwtiwr arall sy'n gysylltiedig â chyfrif y cwmni y prif weinyddwr.

Os ydych yn anghofio eich cyfrinair

Gallwch ailosod eich cyfrinair (https://findajob.dwp.gov.uk/reset-password?lang_code=cy) os byddwch angen. Rhowch y cyfeiriad e-bost rydych wedi’i ddefnyddio i greu’r cyfrif. Byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau ar sut i ailosod eich cyfrinair.

Cadw a dileu hysbysebion swyddi

Pan fydd dros 14 mis ers i chi ddileu eich hysbyseb swydd byddwn yn ei dileu yn barhaol. Mae hyn yn golygu y bydd eich holl wybodaeth a arbedwyd am yr hysbyseb swydd yn cael ei thynnu o Ddod o hyd i swydd. Os ydych chi am gadw'ch hysbysebion swydd, arbedwch nhw all-lein cyn i chi eu dileu.

Cadw a dileu cyfrifon cwmni

Pan fydd hi'n 13 mis ers i'ch cwmni bostio swydd byddwn yn anfon e-bost atoch. Os na fyddwch yn postio hysbyseb swydd o fewn mis i'r e-bost, bydd yn rhaid i chi greu cyfrif cwmni newydd. Mae hyn yn golygu y bydd eich holl wybodaeth a arbedwyd yn hen gyfrif y cwmni yn cael ei cholli

Cadw a dileu cyfrifon cyflogwyr

Pan fydd dros 13 mis ers i chi ddefnyddio'ch cyfrif cyflogwr, byddwn yn anfon e-bost atoch. Os na fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif cyflogwr o fewn mis ar ôl yr e-bost, bydd yn rhaid i chi greu cyfrif cyflogwr newydd. Mae hyn yn golygu y bydd eich holl wybodaeth a arbedwyd yn hen gyfrif y cyflogwr yn cael ei cholli. Os mai chi yw'r gweinyddwr, nid yw hyn yn berthnasol i'ch cyfrif.

Hyderus o ran Anabledd

Os ydych wedi cofrestru gyda’r cynllun ac yn dymuno i’r logo ‘Hyderus o ran Anabledd’ gael ei arddangos ar eich hysbysiadau swydd yna gallwch ofyn am hyn trwy eich cyfrif cwmni Dod o hyd i swydd trwy olygu manylion eich cwmni a dewis ‘cofrestredig’ yn yr adran Hyderus o ran Anabledd. Rhowch eich cyfeirnod DCS pan ofynnir i chi os ydych yn ei wybod.

Gallwch ddarganfod rhagor am y cynllun Hyderus o ran Anabledd (yn agor mewn ffenestr newydd).

Os nad ydych am i'ch hysbysebion gael eu labelu gyda'r bathodyn Hyderus o ran Anabledd mwyach, cysylltwch â ni a dewiswch 'Rwy'n Gyflogwr ac mae angen help arnaf gyda fy nghyfrif'. Rhowch enw eich cwmni a chod post eich cwmni.

« dychwelyd i’r hafan