Telerau ac Amodau i Gyflogwyr ar gyfer y Gwasanaeth Dod o hyd i swydd (y Wefan)
1. Trwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn derbyn y telerau hyn
Darllenwch y telerau defnydd hyn a'r dogfennau cyfatebol yn ofalus. Drwy ddefnyddio'r Gwefan, byddwch wedi ticio blwch i dderbyn/cytuno'r telerau ac amodau hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau ac amodau hyn, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r wefan a'r cynnwys ar-lein ar unwaith.
2. Beth sydd yn y telerau hyn?
Mae'r telerau hyn yn nodi'r rhwymedigaethau cyfreithiol sy'n ymwneud â defnyddio https://findajob.dwp.gov.uk/employer (Gwefan) gan Gyflogwyr. Mae'r Wefan hon yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd gwaith yn unig ac nid yw'n cyflwyno neu'n cyflenwi ceiswyr gwaith i recriwtwyr neu i'r gwrthwyneb.
3. Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni
3.1 Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cynnal y Wefan hon ac mae wedi'i leoli yn Caxton House, 6-12 Tothill Street, Llundain SW1H 9NA. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal y wefan er mwyn darparu lleoliad hunanwasanaeth i Gyflogwyr hysbysebu swyddi ac i roi cyfle i Geiswyr Gwaith chwilio am swyddi a gwneud cais amdanynt.
3.2 Fe weithredir y Wefan gan Adhunter Limited, yn masnachu fel Adzuna fel darparwr gwasanaeth ar ran Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
3.3 Mae Adzuna wedi'u cofrestru yng Nghymru a Lloegr dan rif cwmni 07301894 ac mae ganddynt eu swyddfa gofrestredig yn Adhunter Limited, 40 Vanston Place, Fulham, Llundain SW6 1AX.
4. Diffiniadau
‘Ceisiwr Gwaith’ yw unrhyw aelod o'r cyhoedd p'un a yw'n cael budd-daliadau neu beidio sy'n defnyddio'r Wefan at ddibenion dod o hyd i waith.
‘Cyflogwr’ yw naill ai unigolyn, cwmni neu sefydliad sy'n cyflogi Ceiswyr Gwaith yn uniongyrchol ac sy'n defnyddio'r Wefan hon i hysbysebu am y swyddi hynny lle maent yn cyflogi Ceiswyr Gwaith yn uniongyrchol; neu, os yw cyflogwr yn defnyddio asiantaeth recriwtio i ddarparu gweithiwr y dyfodol, asiantaeth sy'n cyflawni'r gweithgaredd recriwtio llawn i'r cyflogwr a darparu'r gweithiwr i'r cyflogwr hwnnw. Caniateir i'r cyflogwr terfynol gynnal y cyfweliad terfynol. Gall asiantaethau o'r fath hefyd ddarparu cyfleoedd hunangyflogedig, ar yr amod bod y swydd wag yn bodloni'r holl delerau ac amodau perthnasol eraill.
‘Cynnwys’ cyfraniad yw unrhyw gynnwys sydd wedi'i hysbysebu/llwytho gan unrhyw ddefnyddiwr o'r wefan, er enghraifft swyddi gwag neu CV
‘Defnyddwyr’ yw Ceiswyr Gwaith a Chyflogwyr, boed yn unigolion preifat neu fusnesau.
‘Gwefan’ yw https://www.findajob.dwp.gov.uk/employer
5. Eich Data
Pan fyddwch yn cofrestru ar y Gwasanaeth fel Cyflogwr, defnyddir y wybodaeth a roddwch i ni:
- i ddilysu pwy ydych chi,
- er mwyn i chi allu hysbysebu swydd,
- er mwyn i ymgeiswyr allu cysylltu â chi,
- ar gyfer gweinyddu cyfrif Cyflogwr,
- ar gyfer tueddiad cyflogaeth cyffredinol y DU, dibenion ymchwil a dadansoddi swyddi gwag.
6. Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’n Gwefan
Efallai y byddwn yn diweddaru a newid ein Gwefan o bryd i'w gilydd i adlewyrchu newidiadau mewn anghenion defnyddwyr a'n blaenoriaethau busnes. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw newidiadau mawr.
7. Efallai y byddwn yn atal neu ddileu ein Gwefan
7.1 Mae ein Gwefan am ddim i'w defnyddio.
7.2 Nid ydym yn gwarantu y bydd ein Gwefan, neu unrhyw gynnwys arno, bob amser ar gael neu'n ddi-dor. Gallwn atal neu ddileu neu gyfyngu argaeledd pob un neu unrhyw ran o'n Gwefan am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw ataliad neu ddileu.
7.3 Rydych chi hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sydd â mynediad i'n Gwefan trwy'ch cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r telerau defnydd hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a'u bod yn cydymffurfio â hwy.
8. Lleoliad y swyddi a hysbysebir
8.1 Dim ond i Gyflogwyr yw'r Safle hwn er mwyn bostio swyddi yn y Deyrnas Unedig, a dibyniaethau'r Goron ar Ynys Manaw a Beilïaid Guernsey a Jersey. Mae gwasanaeth gwahanol i hysbysebu swyddi gwag yng Ngogledd Iwerddon.
8.2 Ni ellir defnyddio'r Wefan hon i hysbysebu swyddi y tu allan i'r lleoliadau hyn.
9. Sut y gallwch ddefnyddio deunydd ar ein Gwefan
9.1 Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o'r cynnwys ar ein Gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.
9.2 Os byddwch yn argraffu, copïo neu lawr lwytho unrhyw ran o'n Gwefan yn groes i'r telerau defnydd hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan yn dod i ben yn syth a rhaid i chi, ar ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r deunyddiau sydd gennych.
9.3 Ni ddylech anfon, hysbysebu, dosbarthu, storio neu ddinistrio gwybodaeth, i neu ar y Wefan, sy'n torri Ein Polisi Preifatrwydd neu heb ganiatâd ymlaen llaw gennym Ni, neu gan y person y mae eu gwybodaeth yn ymwneud â hi, neu sy'n torri cyfreithiau Lloegr a Chymru neu'r Alban.
9.4 Unwaith y byddwch yn derbyn gwybodaeth bersonol gan geisiwr gwaith, e.e. CV, nid yw'r data hwn bellach yn gyfrifoldeb i'r Adran Gwaith a Phensiynau ac fel cyflogwr eich cyfrifoldeb chi yw cyd fynd gyda GDPR mewn perthynas â gwybodaeth ceiswyr gwaith a geir trwy'r Wefan hon.
10. Sut rydym yn monitro cynnwys sy'n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr
10.1 Mae "Cynnwys Defnyddiwr" yn golygu pob gwybodaeth, data, testun, meddalwedd, ffotograffau, negeseuon neu ddeunyddiau a gyflwynir, eu hysbysebu neu eu harddangos gan Ddefnyddwyr o'r Wefan hon.
10.2 Nid yw'r safbwyntiau a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar y Wefan yn cynrychioli gwerthoedd na safbwyntiau’r Adran Gwaith a Phensiynau ac nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwarantu gwirionedd, cywirdeb neu ddibynadwyedd y Cynnwys Defnyddiwr, ond bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio cyflogwyr sy'n defnyddio'r Wefan ac mae ganddi brosesau â llaw ac awtomatig ar waith i fonitro cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.
10.3 Os ydych yn dibynnu ar unrhyw wybodaeth sydd wedi'i hysbysebu gan bobl eraill sy'n defnyddio'r Wefan hon, rydych yn gwneud hynny ar eich risg eich hunan.
10.4 Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cadw'r hawl i wrthod derbyn swydd neu drosglwyddo unrhyw Gynnwys Defnyddiwr y mae'n ei ystyried yn amhriodol. Cysylltwch â'r Polisi Safonau Cynnwys ar gyfer ein diffiniad o gynnwys derbyniol ac annerbyniol.
10.5 Nid ydym yn gyfrifol am:
- 10.5.1 chi'n methu cael mynediad i'r Wefan, er enghraifft os nad yw ar gael oherwydd materion cynnal a chadw neu dechnegol. Byddwn yn adrodd ar unrhyw adeg nad yw ar gael i'n cyflenwr, Adzuna.
- 10.5.2 unrhyw fath o golled neu ddifrod o ganlyniad i ddefnyddio'r Wefan
- 10.5.3 cywirdeb swydd ddisgrifiadau ac unrhyw gynnwys defnyddiwr arall
10.6 Yn benodol, ar gyfer Cyflogwyr, ni fyddwn yn atebol am:
- 10.6.1 colli elw, gwerthiant, busnes neu refeniw;
- 10.6.2 ymyrraeth mewn busnes;
- 10.6.3 colli arbedion disgwyliedig;
- 10.6.4 colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu
- 10.6.5 unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, gan gynnwys marwolaeth ac anaf personol
10.7 Nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn hawlio hawliau, perchenogaeth na rheolaeth dros y cynnwys a lwythir ar y Wefan gan y Cyflogwyr a Cheiswyr Gwaith. Mae'r person neu'r sefydliad sy'n llwytho'r Cynnwys Defnyddiwr yn cadw'r hawliau i'w eiddo deallusol ac yn llwyr gyfrifol am amddiffyn hawliau ei Eiddo Deallusol.
11. Llwytho cynnwys i'n Gwefan
11.1 Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio cyfleuster sy'n eich galluogi i lwytho cynnwys ar ein Gwefan, neu i gysylltu â defnyddwyr eraill ar y Wefan, rhaid i chi gydymffurfio â'r Polisi Safonau Cynnwys.
11.2 Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o'r fath yn cydymffurfio â'r safonau hynny, a byddwch yn atebol i ni ac yn ein hindemnio am unrhyw doriad o'r warant honno. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir o ganlyniad i'ch toriad o'r warant.
11.3 Mae gennym yr hawl i dynnu neu newid unrhyw hysbysiad a wnewch ar ein Gwefan os nad yw eich swydd, yn ein barn ni, yn cydymffurfio â'r polisi safonau cynnwys.
11.4 Chi yn unig sy'n gyfrifol am sicrhau a chynnal eich cynnwys.
12. Nid ydym yn gyfrifol am firysau ac ni ddylech eu cyflwyno
12.1 Nid ydym yn gwarantu y bydd ein Gwefan yn ddiogel neu'n rhydd o broblemau neu firysau.
12.2 Chi sy'n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a llwyfan i gael mynediad i'n Gwefan. Dylech ddefnyddio'ch meddalwedd amddiffyn firws eich hun.
12.3 Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein Gwefan trwy gyflwyno firysau, Trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol. Ni ddylech geisio cael mynediad anawdurdodedig i'n Gwefan, y serfiwr y mae ein Gwefan yn cael ei storio arno neu unrhyw serfiwr, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'n Gwefan. Ni ddylech ymosod ar ein Gwefan trwy ymosodiad gwadu gwasanaeth neu ymosodiad gwadu gwasanaeth wedi'i ddosbarthu. Byddwn yn adrodd am unrhyw doriad o'r fath i'r awdurdodau gorfodi cyfraith berthnasol a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych iddynt. Os bydd toriad o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Gwefan yn dod i ben ar unwaith.
13. Nid ydym yn gyfrifol am wefannau rydym yn cysylltu â hwy
13.1 Lle mae ein Gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, darperir y dolenni hyn ar gyfer eich gwybodaeth yn unig. Ni ddylid dehongli dolenni o'r fath fel ein bod yn cymeradwyo'r gwefannau cysylltiedig neu'r wybodaeth y gallech eu cael oddi wrthynt.
13.2 Nid oes gennym ddim rheolaeth dros gynnwys y gwefannau neu'r adnoddau hynny.
14. Rheolau ynghylch cysylltu i'n Gwefan
14.1 Gallwch gysylltu i'n tudalen hafan, cyn belled eich bod yn gwneud hynny mewn modd sy'n deg ac yn gyfreithiol ac sydd ddim yn niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
14.2 Ni ddylech sefydlu dolen mewn modd sy'n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad neu gymeradwyaeth ar ein rhan lle nad oes unrhyw un yn bodoli.
14.3 Ni ddylech sefydlu dolen i'n Gwefan mewn unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.
14.4 Ni ddylid fframio ein Gwefan ar unrhyw wefan arall, ac ni allwch greu dolen i unrhyw ran o'n Gwefan heblaw'r dudalen hafan.
14.5 Rydym yn cadw'r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.
14.6 Rhaid i'r wefan y byddwch yn cysylltu â hi gydymffurfio ym mhob ffordd â'r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Safonau Cynnwys.
15. Polisïau Eraill
Dylid darllen y Polisi Telerau ac Amodau ar gyfer Cyflogwyr ochr yn ochr â’r Wefan Pholisi Defnydd Derbyniol y Gwasanaeth, y Polisi Preifatrwydd, y Polisi Safonau Cynnwys a'r Polisi Cwcis.
16. Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r telerau ac amodau hyn
Gallwn ddiweddaru ein Telerau ac Amodau ar gyfer Cyflogwyr unrhyw bryd. Edrychwch ar y dudalen hon yn rheolaidd i gael gwybod am y diweddariadau.
Diweddarwyd y telerau a'r amodau hyn ddiwethaf ar 22 Mawrth 2023
17. Deddfau pa wlad sy'n berthnasol i unrhyw anghydfodau?
Mae'r telerau ac amodau hyn, eu pwnc a'u ffurf, yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr. Mae partïon i'r cytundeb hwn yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw.
18. Polisi Safonau Cynnwys
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu a yw unrhyw gynnwys a lwythir gan Ddefnyddwyr yn torri ei safonau.
Rhaid i safonau cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, gan gynnwys hysbysebion swyddi:
- Bod yn gywir (lle mae'n nodi ffeithiau), i ddarparu swydd ddisgrifiad, sy'n hollol ddealladwy i Geiswyr Gwaith, o gyfle gwirioneddol am swydd neu waith; mae'n rhaid i deitl y swydd adlewyrchu'r swydd sy'n cael ei gynnig ac ni ddylai fod yn derm generig megis 'Amrywiol',
- Nodi'n glir ble mae'r swydd wag yn cynnig contract sero awr,
- Ddim yn camarwain Ceiswyr Gwaith wrth ddyfynnu cyfraddau tâl neu gyflog y swydd,
- Sicrhau bod pob swydd ddisgrifiad prentisiaeth yn cynnwys y gair 'Prentisiaeth' yn y teitl swydd, ac yn cynnwys y cymhwyster y bydd y prentis yn gweithio tuag ato, hyd y brentisiaeth ac enw'r Cyflogwr.
- Ond yn gofyn i Geiswyr Gwaith am ddogfennau sy'n dangos eu hawl i weithio yn y DU a bennir yng Nghanllaw'r Swyddfa Gartref 'https://www.gov.uk/government/publications/right-to-work-checks-employers-guide'. Nid yw hyn yn cynnwys trwydded yrru neu fanylion cyfrif banc.
- Bod ar gael i geiswyr gwaith ar sail agored a theg
19. Rhaid i safonau cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, gan gynnwys hysbysebion swyddi, beidio â:
19.1 Bod yn ddifenwol i unrhyw berson.
19.2 Bod yn anweddus, sarhaus, cas neu ymfflamychol.
19.3 Hyrwyddo deunydd rhywiol.
19.4 Hyrwyddo trais.
19.5 Hyrwyddo gwahaniaethu yn seiliedig ar hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, tarddiad rhywiol neu oedran.
19.6 Torri unrhyw hawlfraint, hawliau cronfa ddata neu farc masnach unrhyw berson arall.
19.7 Bod yn debygol o dwyllo unrhyw berson.
19.8 Torri unrhyw ddyletswydd gyfreithiol sy'n ddyledus i drydydd parti, fel dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd hyder.
19.9 Hyrwyddo unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.
19.10 Bod yn ddirmyg llys.
19.11 Bod yn fygythiol, yn cam-drin neu'n torri ar breifatrwydd person arall, neu'n achosi aflonyddwch, anghyfleustra neu bryder diangen.
19.12 Bod yn debygol o aflonyddu, gofidio, embaras, pryderu neu aflonyddu unrhyw berson arall.
19.13 Esgus bod yn unrhyw berson, neu gamliwio eich hunaniaeth neu gysylltiad ag unrhyw berson. Rhoi'r argraff bod y Cyfraniad yn deillio o’r Adran Gwaith a Phensiynau, os nad yw hyn yn wir.
19.14 Cefnogi, hyrwyddo, ysgogi unrhyw barti i wneud, neu gynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon neu droseddol fel (er enghraifft yn unig) torri hawlfraint neu gamddefnyddio cyfrifiaduron.
19.15 Cynnwys unrhyw hysbysebu neu hyrwyddo unrhyw wasanaethau neu ddolenni gwe i wefannau eraill oni bai bod cysylltiad i'r pwrpas mae'r Wefan yn cael ei ddefnyddio.
19.16 Parhau ar y Wefan os nad yw’r swydd bellach ar gael.
Yn benodol, nid yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn derbyn cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, gan gynnwys hysbysebion swyddi, sydd:
20.1 Yn cynnwys tudalennau mynediad cyfyngedig neu drwy gyfrinair yn unig, neu dudalennau cudd neu ddelweddau;
20.2 mewn unrhyw iaith heblaw Cymraeg a Saesneg
20.3 ddim yn darparu cyfradd o dâl sy'n cyfateb i, neu sy'n fwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac, yn dibynnu ar oedran yr ymgeisydd llwyddiannus, cyfradd o dâl sy'n cyfateb i neu sy'n uwch na'r Cyflog Byw Cenedlaethol (pan gaiff ei ddeddfu a'i diwygio o bryd i'w gilydd), oni bai fod eithriad cyfreithiol yn berthnasol; rhaid i'r gyfradd tâl a ddyfynnir yn yr hysbyseb swydd fod yn gyfradd uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol er y gallech fod yn bwriadu cyflogi rhywun sy'n gymwys ar gyfer y cyfraddau prentisiaeth is o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
20.4 yn hysbysebion swyddi dyblyg ar y Wefan. Mae hysbyseb swydd ddyblyg yn un sydd â'r un teitl swydd, swydd ddisgrifiad, oriau gwaith a lleoliad fel hysbyseb swydd sydd eisoes yn 'fyw' ar y Wefan ac yn yr un iaith.
20.5 ddim yn nodi'n glir yn y swydd ddisgrifiad unrhyw neu'r holl gostau y gellid eu hwynebu fel rhan o'r broses ymgeisio ac unrhyw a phob cost barhaus
20.6 yn cael eu hysbysebu at ddibenion adeiladu cronfa ddata o ddarpar ymgeiswyr; mae'n rhaid bod swydd wirioneddol ar gael
20.7 ar gyfer gwasanaethau rhywiol neu'n chwilio am weithwyr ar gyfer swyddi o natur rywiol. Dylai unrhyw swyddi a leolir o fewn y diwydiant adloniant oedolyn ond bod at ddibenion a) gwerthu, cynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion adloniant oedolion b) Staff ategol e.e. glanhawyr a staff bar a c) mae'n rhaid i swyddi ddangos y gofyniad oedran sy'n 18 oed neu'n hŷn. Ni dderbynnir unrhyw swyddi adloniant oedolion eraill;
20.8 yn gyfleoedd comisiwn yn unig, oni bai bod yr hysbyseb yn nodi'n glir bod y swydd sydd ar gael yn talu comisiwn yn unig ac yn disgrifio'n glir y cynnyrch neu'r gwasanaeth y byddai'r Ceisiwr Gwaith yn ei werthu ac yn cadarnhau y gall y swydd wag gyflawni cyflog sy'n cyfateb i neu sy'n fwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a/neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol (pan ddeddfwyd) ac fel y'i diwygiwyd o dro i dro;
20.9 yn hunangyflogedig ar gomisiwn yn unig neu gyfleoedd gwaith “piecework” oni bai bod y swydd ddisgrifiad yn cydymffurfio â Gofynion Cyllid a Thollau EM ac mae'n rhaid i unrhyw gyfle o'r fath ddatgan yn glir y cynhyrchion/gwasanaethau sy'n berthnasol i'r swydd wag, disgwyliadau ychwanegol, gan gynnwys lle mae gofyniad i recriwtio aelodau; unrhyw gostau cyn neu gyfnodol y gallai'r Ceiswyr Gwaith orfod eu talu; ffioedd gweinyddu asiantaeth ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol hunangyflogedig (lle bo hynny'n berthnasol); y gellir cyflawni incwm sy'n gyfwerth i neu'n fwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW), ac yn dibynnu ar oedran yr ymgeisydd llwyddiannus, cyfradd o dâl sy'n gyfwerth i neu'n fwy na'r Cyflog Byw Cenedlaethol (pan ddeddfwyd) ac fel y'i diwygiwyd o dro i dro;
20.10 yn gyfleoedd codi arian heb ganiatâd penodol yr elusen dan sylw;
20.11 wedi'i bwriadu'n benodol i weithio yn lle gweithwyr sy'n ymwneud ag anghydfod undeb llafur swyddogol;
20.12 yn cynnig lwfansau neu dreuliau yn unig ar gyfer rolau fel cyfleoedd gwirfoddol, cymunedol neu faethu. Fodd bynnag, gallant gael eu hysbysebu fel cyfleoedd lleol trwy'r Ganolfan Byd Gwaith;
20.13 yn cynnwys cyfnod ar brawf heb dâl;
20.14 bod angen dinasyddiaeth o unrhyw wlad benodol neu breswylfa barhaol gyfreithlon mewn gwlad fel amod o gyflogaeth, oni bai ei bod yn ofynnol fel arall er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, rheoliadau, neu gontract y llywodraeth;
20.15 yn cynnwys unrhyw ofyniad neu faen prawf sgrinio mewn cysylltiad â hysbysiad swydd lle nad yw'r gofyniad neu faen prawf o'r fath yn ofyniad gwirioneddol a chyfreithiol y swydd a hysbyswyd.
20.16 yn cynnwys yn y swydd ddisgrifiad:
- rhifau ffôn cyfradd premiwm;
- rhifau ffôn sy'n cynhyrchu incwm (rhagddodiaid 070 a 09);
- rhifau ffôn 0871, 0872, 0873 lle mae hyd y galwad yn fwy na 5 munud;
- ceisiadau i geiswyr gwaith i ddefnyddio eu cyfrif(au) rhestru arwerthiannau personol eu hunain.
21. Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i delerau'r polisi safonau cynnwys hwn
Gallwn ddiweddaru ein polisi safon cynnwys unrhyw bryd. Edrychwch ar y dudalen hon yn rheolaidd i gael gwybod am y diweddariadau.
Diweddarwyd y telerau hyn ddiwethaf ar 22 Mawrth 2023.