Polisi preifatrwydd
Rydym yn parchu eich hawl i breifatrwydd.
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn nodi ac yn manylu ar y wybodaeth y gallwn ei chasglu gennych a sut y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon trwy wefan Dod o hyd i swydd (y Gwasanaeth).
Pan fyddwch yn cofrestru ar y Gwasanaeth, defnyddir y wybodaeth a roddwch i ni:
- fel y gallwch wneud cais am swydd
- fel y gallwn weinyddu'ch cyfrif,
- ac, os ydych yn gyflogwr,
- i alluogi ceiswyr gwaith gysylltu â chi
- ar gyfer tueddiad cyflogaeth cyffredinol y DU, dibenion ymchwil a dadansoddi swyddi gwag.
Dylai'r polisi preifatrwydd gael ei ddarllen ynghyd â'r Polisi Defnydd Derbyniol, Telerau ac Amodau’r Cyflogwr a'r Polisi Cwcis yn ogystal â siarter gwybodaeth bersonol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Amdanom ni
Yn y polisi preifatrwydd hwn, caiff y Gwasanaeth ei redeg gan Adhunter Ltd yn masnachu fel Adzuna ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Rheolwr Data am unrhyw ddata personol a brosesir gan y Gwasanaeth a'i ddisgrifiwyd yn y polisi preifatrwydd hwn. Mae Adzuna yn darparu'r Gwasanaeth ac yn amddiffyn y data personol wrth weithredu yn eu rôl fel y Prosesydd Data, ochr yn ochr â Amazon Web Services, sydd hefyd yn brosesydd data.
Defnydd o’r gwasanaeth
Mae'r Gwasanaeth ar gael i geiswyr gwaith a chyflogwyr y DU, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gall Ceiswyr Gwaith ddefnyddio'r Gwasanaeth i wneud cais am swyddi ac anfon eu CV at gyflogwyr sy'n hysbysebu am swyddi.
Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i'ch defnydd o'r Gwasanaeth yn unig.
Gallwch wneud cais am swyddi a hysbysebwyd gan gyflogwyr ac, os ydych yn dewis gwneud cais, efallai y byddant hefyd yn casglu gwybodaeth arall amdanoch. Os ydych yn gwneud cais, dylech ymgynghori â pholisïau preifatrwydd y cyflogwr hynny, fel sy'n briodol ac yn berthnasol. Y cyflogwr fydd y rheolwr data ar gyfer eich data personol, unwaith y byddant yn cael y data cais rydych wedi eu hanfon, gan gynnwys unrhyw ddata ychwanegol maent wedi ei gasglu gennych chi.
Fel rhan o'ch proffil ceisiwr swydd, gallech lanlwytho CV i anfon at gyflogwyr wrth wneud cais am swyddi drwy'r Gwasanaeth.
Yn eich defnydd o'r Gwasanaeth, byddwn yn:
- storio’r canlyniadau eich chwiliadau swyddi a'ch ceisiadau swydd o fewn hanes gweithgaredd, fel y gallwch adolygu'r rhain ar unrhyw adeg
- cadw cofnod o bryd y byddwch yn mewngofnodi ac yn logio allan o'r Gwasanaeth ar gyfer ymdrin ag ymholiadau technegol er enghraifft, a darparu, cynnal, diogelu a gwella ansawdd y Gwasanaeth
- Storio copïau o'r CV yr hoffech eu cadw ar y gwasanaeth (uchafswm o 5) fel y gallwch ddefnyddio'r rhain i wneud cais am swyddi
Casglu a defnyddio’ch gwybodaeth
Pan fyddwch yn cael mynediad i’r Gwasanaeth trwy unrhyw fodd, gallwn gasglu, storio a defnyddio rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol yn unol â'r polisi hwn (yn benodol cyfeiriad e-bost y ceisiwr gwaith, y cais a'r hanes gweithgaredd a data CV).
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am wybodaeth ychwanegol pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem gyda'r Gwasanaeth, yn gweithredu’n rhinwedd cyflogwr neu gwyno am gyflogwr (e.e. eich enw neu'ch rhif ffôn i'ch ffonio).
I gofrestru neu wneud cais am swydd ar y Gwasanaeth, byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost.
Os byddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad neu gais am gymorth, efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnod o'r ohebiaeth honno. Mae hyn fel y gallwn ei gysylltu ag unrhyw ohebiaeth debyg gan ddefnyddwyr eraill gan y bydd hyn yn ein cynorthwyo i nodi gwelliannau i'r gwasanaeth.
Efallai y byddwn hefyd yn casglu data sy'n ymwneud â'ch ymweliadau â'r Gwasanaeth na all eich adnabod chi ond yn cofnodi'ch defnydd o'n Gwasanaeth, gan gynnwys, er enghraifft, fanylion am ba mor hir rydych wedi defnyddio'r Gwasanaeth a'r nifer o swyddi y gwnaethpwyd cais amdanynt a phryd.
Efallai y byddwn hefyd yn casglu cyfeiriad IP eich cyfrifiadur er mwyn ein helpu i wella'r modd y cyflawnir y Gwasanaeth a gwarchod uniondeb y Gwasanaeth. Ni fydd hyn yn eich adnabod chi fel unigolyn i ni.
Storio gwybodaeth
Mae'r holl wybodaeth yn cael ei storio ar ein gweinyddwyr diogel. Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn gofyn i chi ddewis cyfrinair sy'n eich galluogi i gael mynediad i'ch cyfrif. Rydych yn gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu'r cyfrinair hwn gydag unrhyw un.
Yn ogystal, gallwn ni neu ein proseswyr data sy'n gweithredu ar ein rhan hefyd storio neu brosesu gwybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch mewn gwledydd y tu mewn i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae'r darparwr ar gyfer y wefan a'r data sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r gwasanaeth yn swyddogol yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae rhywfaint o ddata gweithredol a chymorth technegol yn cael ei storio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd at ddibenion monitro a gweinyddu.
Rydym wedi sefydlu mesurau diogelwch technegol a sefydliadol i atal colli neu fynediad heb ganiatâd i’ch gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, er ein bod wedi defnyddio ein hymdrechion gorau i sicrhau diogelwch eich data, byddwch yn ymwybodol na allwn warantu diogelwch gwybodaeth a drosglwyddir dros y Rhyngrwyd.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth
Mae ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio'r wybodaeth bersonol a ddisgrifir o fewn y polisi preifatrwydd hwn wedi'i gynnwys yn Erthygl 6(1)(e) GDPR. Lle y bydd prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolwr, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth. Ni chaniateir i'r proseswyr data ddefnyddio'r data at unrhyw ddiben arall heblaw am ganiatáu i geiswyr gwaith i ddod o hyd i waith. Am ragor o wybodaeth, gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Datgelu’ch gwybodaeth
Dim ond pan fyddwn â chaniatâd neu mae'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fydd angen darparu'r gwasanaeth, byddwn yn datgelu eich gwybodaeth. Ni fyddwn yn gwerthu neu'n rhannu eich data gyda thrydydd parti at ddibenion marchnata.
Cadw data
Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol a gasglwn gennych lle mae angen busnes cyfreithlon parhaus i ni wneud hynny (er enghraifft, er mwyn darparu'r Gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano).
Pan nad oes gennym angen busnes cyfreithlon parhaus i brosesu eich gwybodaeth bersonol, byddwn naill ai'n dileu neu'n ei dienw, neu os nad yw hyn yn bosibl (er enghraifft, oherwydd bod eich gwybodaeth bersonol wedi'i storio mewn archifau wrth gefn), yna byddwn yn storio'ch gwybodaeth bersonol a'i ynysu o unrhyw brosesu pellach hyd nes y bydd ei ddileu yn bosibl.
Gallwch gau eich cyfrif chwiliad gwaith ar unrhyw adeg. Mae cau eich cyfrif yn dileu'r holl wybodaeth bersonol a gedwir yn eich proffil, gan gynnwys CV(au), ac eithrio hanes gweithgaredd eich cyfrif.
Yn benodol, mae'r hanes gweithgaredd cyfrif yn cofnodi pan rydych wedi cael mynediad i’r gwasanaeth ac wedi cau’r cyfrif. Rydym yn cadw hanes gweithgaredd cyfrif y defnyddiwr am 14 mis, gan gynnwys pan fydd cyfrif yn cael ei ddileu, i ddiogelu buddiannau defnyddwyr a'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na gwylio data'r ceisiwr gwaith at ddiben gweinyddu ceisiadau budd-dal.
- Mae'r hanes gweithgaredd cyfrif yn cofnodi pan fydd ceisiwr gwaith neu gyflogwr wedi cael mynediad i’r gwasanaeth ac wedi ymgymryd â gweithrediadau allweddol, gan gynnwys gweithgareddau mewngofnodi ac allgofnodi, dileu eu cyfrif, gweithrediadau cais am swyddi a llwytho neu ddileu CV.
- Mae gennym angen cyfreithlon i gadw'r data hwn i gynorthwyo ceiswyr gwaith sy'n rhoi gwybod am gamddefnydd posibl o’u cyfrif neu os ydym yn amau bod y gwasanaeth yn cael ei gam-drin yn systematig yn gyffredinol.
Bydd holl hanes gweithgaredd cyfrif yn cael ei ddileu 14 mis ar ôl i'r cyfrif gael ei gau.
Os nad ydych wedi defnyddio eich cyfrif ceisiwr gwaith am dri mis ar ddeg ers y mewngofnodi llwyddiannus diwethaf, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost cofrestredig ac yn egluro, os na fyddwch yn mewngofnodi’n llwyddiannus eto o fewn y mis nesaf, byddwn yn cau eich cyfrif yn awtomatig.
Os ydych wedi cysylltu â ni gydag ymholiad gwasanaeth, byddwn yn dileu cofnodion y cyswllt hwnnw deuddeg mis ar ôl i'r cyfnewid cyfathrebu hwnnw ddod i ben.
Byddwn yn dileu unrhyw gyfeiriadau e-bost sydd heb eu gwirio ar ôl 90 diwrnod.
Eich hawliau
Yr hawl mynediad a'r hawl i unioni:
Gallwch weld a golygu'ch manylion personol trwy'ch tudalen proffil pryd bynnag y dymunwch.
Yr hawl i ddileu
Gallwch ddileu eich Data Personol ar unrhyw adeg. Os byddwch yn derbyn rhybuddion e-bost, gallwch ddileu'r rhain o fewn eich cyfrif neu o'r ddolen o fewn y negeseuon e-bost. Os oes gennych gyfrif gyda chyfrinair, gallwch ddileu unrhyw CV(au) a allech fod wedi eu lanlwytho’n unigol trwy fynd i adran 'Eich CVau' eich cyfrif. Gallwch hefyd ddileu eich cyfrif Dod o hyd i Swydd yn gyfan gwbl o'r adran 'Rheoli Cyfrif' yma
Mae'r holl hawliau eraill fel yr esboniwyd yn siarter gwybodaeth bersonol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gall y Gwasanaeth, o dro i dro, gynnwys dolenni i ac oddi gwefannau trydydd parti. Os ydych yn dilyn dolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol i'r gwefannau hyn, oherwydd gall eich hawliau fod yn wahanol.
Plant
Credwn yn gryf wrth ddiogelu preifatrwydd plant. Yn unol â'r gred hon, nid ydym yn casglu na chynnal gwybodaeth bersonol yn fwriadol gan bobl o dan 13 oed, ac ni chaiff unrhyw ran o'r Gwasanaeth ei gyfeirio at bobl dan 13 oed. Os ydych o dan 13 oed, yna peidiwch â defnyddio neu fynd i'r Gwasanaeth ar unrhyw adeg neu mewn unrhyw fodd. Byddwn yn cymryd camau priodol i ddileu unrhyw wybodaeth bersonol o bobl lai na 13 mlwydd oed.
Diweddaru'r polisi preifatrwydd hwn
Gallwn ddiweddaru neu ddiwygio'r polisi preifatrwydd hwn o dro i dro, i gydymffurfio â'r gyfraith neu i gwrdd â'n gofynion busnes sy'n newid. Pan fyddwn yn diweddaru ein polisi preifatrwydd, byddwn yn cymryd mesurau priodol i'ch hysbysu, yn gyson ag arwyddocâd y newidiadau a wnawn. Bydd unrhyw ddiweddariadau neu welliannau yn cael eu postio ar y Gwasanaeth. Trwy barhau i gael mynediad at y Gwasanaeth, cael mynediad at a diweddaru eich proffil ceisiwr gwaith, llwytho CV a gwneud cais am swyddi, bydd eich mynediad a'ch defnydd yn ddarostyngedig i'r diweddariadau a'r newidiadau hyn.
Diweddarwyd telerau'r polisi preifatrwydd ar 2 Awst 2018.
Cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion am y polisi preifatrwydd hwn. Cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir yn siarter gwybodaeth bersonol yr Adran Gwaith a Phensiynau.