Datganiad Hygyrchedd Dod o Hyd i Swydd
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae'r tudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am wasanaeth Dod o Hyd i swydd yn unig, sydd ar gael ar https://findajob.dwp.gov.uk/.
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Dod o Hyd i swydd (https://findajob.dwp.gov.uk/) a'i his-barthau.
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hyrgyrch fel gellir ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl.
Mae hyn yn golygu dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau drwy ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo hyd at 400% heb golli’r testun oddi ar y sgrin
- llywio'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y wefan drwy ddefnyddio darllenwr sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd yn gweud cynnwys y gwasanaeth mor hawdd â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio arddulliau, patrymau ac elfennau cyffredin o System Dulunio GOV.UK sydd yn cael eu cydnabod yn eang i fod yn hygyrch.
Beth i'w wneud os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Os ydych angen gwybodaeth mewn ffurf gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain, neu braille, cysylltwch â ni a dweud wrthym am:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich enw a'ch cyfeiriad ebost
- y ffurf rydych ei angen, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain, neu brint bras, PDF hygyrch
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd y wefan hon
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau na chaiff eu rhestru ar y tudalen hwn neu eich bod yn meddwl nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Proses orfodaeth
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Dyfeisiau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd Dod o Hyd i Swydd
Mae’r DWP wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd y Cyrff Sector Cyhoeddus (Wefannau ac Apiau Dyfeisiau Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Profwyd y wefan hon yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Medi 2020. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 06/08/2025.
Profwyd y gwasanaeth hwn diwethaf ym mis Gorffennaf 2025 a chafodd ei wirio am gydymffurfiad gyda WCAG 2.2 AA.
Cynhaliwyd y profi drwy ddefnyddio cyfuniad o brofi awtomatig a llaw, gan gynnwys technolegau cynorthwyol: JAWS, Dragon, Windows Magnifier a VoiceOver.
Gwnaethom ddefnyddio dull samplo, drwy ddewis tudalennau a oedd yn wahanol i’w gilydd yn weledol neu’n weithredol. Cafodd y sampl ei ddewis i gynnwys gymaint o wahanol gydrannau a phatrymau dyluniad ag sy’n bosibl.