Cymorth a chyngor
Y gwasanaeth ‘Dod o hyd i swydd’ newydd
Gallwch chwilio am swyddi heb sefydlu cyfrif. Ond mae sefydlu cyfrif yn golygu y gallwch:
- gwneud cais am swyddi
- cadw cofnod o'ch chwiliadau a'ch ceisiadau am swydd
- ei ddefnyddio i drafod eich gweithgaredd chwilio am waith os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith
- creu rhybuddion e-bost
- arbed swyddi i wneud cais amdanynt yn ddiweddarach
Chwilio am swyddi
Gallwch chwilio am waith drwy: teitl swydd, cwmni, sgil, lleoliad ac opsiynau gweithio o bell (yn gyfan gwbl o bell neu hybrid ac o bell). Gallwch hidlo eich canlyniadau drwy: lleoliad, opsiynau gweithio o bell (gan gynnwys yn gyfan gwbl o bell, hybrid ac o bell neu ar y safle yn unig), dyddiad hysbysebu, cyflog, categori, math o gontract ac oriau.
Defnyddiwch 'Chwiliad Uwch' i fireinio'ch chwiliad hyd yn oed yn fwy.
Os oes swydd benodol y mae gennych ddiddordeb ynddo, gallwch sefydlu rhybuddion e-bost ar y dudalen canlyniadau chwilio.
Gogledd Iwerddon
Gallwch ddod o hyd i swyddi ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban. Ar gyfer swyddi yng Ngogledd Iwerddon, ewch i JobApplyNI.
Sefydlu a rheoli’ch cyfrif
Ewch i'r dudalen Creu cyfrif. Rhowch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Fe gewch e-bost. Dilynwch y ddolen yn yr e-bost i actifadu'ch cyfrif.
Mae'r ddolen yn dod i ben o fewn 30 munud. Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost, edrychwch ar eich ffolder junk neu sbam i weld os yw yno. Os ydych yn cael anhawster i dderbyn y ddolen, yna ychwanegwch noreply@email.findajob.dwp.gov.uk at eich rhestr anfonwyr diogel.
Os bydd y ddolen wedi dod i ben bydd angen i chi gofrestru eto. Gallwch ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost.
Os ydych yn anghofio’ch cyfrinair
Gallwch ailosod eich cyfrinair os byddwch angen. Rhowch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i greu'r cyfrif. Fe gewch e-bost gyda chyfarwyddiadau ar sut i ailosod eich cyfrinair.
Os ydych chi eisiau dileu’ch cyfrif
Gallwch ddileu eich cyfrif trwy fynd i mewn i 'Reoli cyfrif' yn eich cyfrif a dewis yr opsiwn dileu.
Arbed swyddi
Gallwch arbed swyddi mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i mewn i'ch cyfrif yn gyntaf. Pan fyddwch yn chwilio am swyddi, fe welwch ar y dudalen canlyniadau bod botwm calon wrth ymyl pob swydd, y byddwch yn ei ddefnyddio i arbed swydd ar gyfer yn hwyrach ymlaen. Fe welwch y swyddi rydych chi wedi'u harbed yn eich cyfrif.
Sefydlu a rheoli rhybuddion e-bost
Sefydlwch rybuddion e-bost dyddiol neu wythnosol ar gyfer swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi yn gyntaf. Pan fyddwch yn chwilio am swyddi, fe welwch ar y dudalen canlyniadau chwilio bod botwm 'creu rhybudd' ar frig y dudalen. Defnyddiwch yr opsiwn hwnnw i sefydlu rhybudd e-bost a fydd yn anfon rhybuddion e-bost atoch gyda'r holl swyddi sy'n cyd-fynd â'r chwiliad a ddefnyddiwyd gennych.
Os ydych chi eisiau rhoi'r gorau i gael rhybuddion e-bost, gallwch ddad-danysgrifio oddi wrthynt yn eich cyfrif.
Os nad ydych yn cael e-byst rydych yn meddwl y dylech fod yn eu cael, edrychwch i weld:
- bod y cyfeiriad e-bost yn eich cyfrif yn gywir
- os yw'r negeseuon e-bost wedi'u rhoi yn eich ffolder sbam neu junk
Diogelwch e-bost
Weithiau mae pobl yn anfon negeseuon e-bost ffug wedi'u cuddio fel rhai go iawn i geisio eich cael i anfon gwybodaeth bersonol iddynt (gelwir hyn yn 'phishing').
Ni fydd y gwasanaeth 'Dod o hyd i swydd' byth yn anfon e-bost atoch sy’n:
- gofyn am enw defnyddiwr neu gyfrinair eich cyfrif
- gofyn i chi lawr lwytho rhywbeth
- gofyn i chi ddiweddaru'ch cyfrif
Os ydych yn credu bod e-bost ffug wedi cael ei anfon sydd wedi cael ei wneud i edrych fel un gennym ni, defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni. Rhowch ddisgrifiad manwl o'r e-bost i ni.
Byddwch yn ofalus o unrhyw e-bost sy'n gofyn i chi:
- drosglwyddo arian fel rhan o sicrhau cynnig am swydd
- am fanylion personol megis manylion cyfrif banc, rhif Yswiriant Gwladol, dyddiad geni neu unrhyw wybodaeth arall nad yw'n ymddangos yn berthnasol i wneud cais am swydd
Creu ac atodi CV
Atodwch CV trwy fynd i'ch cyfrif a dewis 'Eich CVs'. Dilynwch y cyfarwyddiadau i lwytho dogfen Microsoft Word neu PDF o'ch dyfais.
Gallwch lwytho hyd at 5 CV. Dim ond pan fyddwch chi'n ymgeisio am swydd y bydd cyflogwyr yn gweld eich CV.
Gallwch ddileu CVs trwy fynd i mewn i'ch cyfrif, dewis 'Eich cyfrif' a defnyddio'r ddolen 'dileu'.
Ni allwch adeiladu CV ar y wefan, dim ond llwytho CV rydych chi wedi'i greu.
Mae CV da yn amlygu'r sgiliau, cymwysterau a'r profiad sydd gennych sy'n berthnasol i'r swydd a'r cwmni rydych yn ymgeisio iddynt. Mae'n werth cymryd peth amser i greu prif CV y gellir yna ei newid i weddu i wahanol swyddi a chyflogwyr.
Am ragor o wybodaeth am greu CV da, gweler gwefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol.
Gwneud cais am swydd
I wneud cais am swydd, dewiswch y ddolen i'r swydd ac yna sgroliwch i lawr y dudalen. Os welwch botwm 'Gwneud cais', dewiswch ef. Bydd hyn yn gwneud un o'r canlynol:
- gadael i chi ymgeisio am y swydd ar-lein o fewn y gwasanaeth 'Dod o hyd i swydd' (bydd angen i chi atodi CV a chynnwys neges)
- mynd â chi i wefan recriwtio'r cwmni ei hunan
- dangos manylion cyswllt y cwmni er mwyn i chi allu gwneud cais dros y ffôn neu drwy e-bost
Os yw'r cyflogwr wedi darparu rhif ffôn, edrychwch bob amser ar faint y bydd yn ei gostio i ffonio'r rhif hwnnw o'ch ffôn cyn i chi ei ffonio.
Peidiwch byth â rhoi'r wybodaeth ganlynol yn eich CVs, llythyrau eglurhaol neu geisiadau am swydd:
- manylion banc
- rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad geni
- unrhyw wybodaeth arall nad yw'n berthnasol i'r broses ymgeisio
Os ydych chi'n poeni am unrhyw beth, dywedwch wrthym gan ddefnyddio'r ffurflen cysylltu â ni a dewis 'Mae gen i gŵyn am gyflogwr’.
Caiff swyddi eu hysbysebu am 30 diwrnod. Ond gallai cwmni ei dynnu i lawr ar unrhyw adeg, er enghraifft os yw'r swydd wedi derbyn digon o geisiadau. Dylech wneud cais yn brydlon i wneud y mwyaf o'r cyfle i wneud cais am swydd ac i'ch cais gael ei ystyried.
Olrhain eich cais
Gallwch olrhain y swyddi rydych chi wedi gwneud cais amdanynt yn eich cyfrif. Byddwch yn gallu gweld eich gweithgaredd am y 60 diwrnod diwethaf, gan gynnwys:
- swyddi rydych wedi gwneud cais amdanynt
- swyddi rydych wedi edrych arnynt
- chwiliadau rydych wedi'u gwneud
Gallwch argraffu hwn trwy ddefnyddio'r botwm 'addas i argraffu' ar y dudalen.
Bydd pob cwmni yn rhoi gwybod i chi am eich cais yn ei ffordd ei hun. Efallai y bydd cwmni bach sydd â nifer fach o ymgeiswyr yn anfon ymateb personol i ddweud bod eich cais wedi'i dderbyn.
Gallai cwmnïau mwy ddefnyddio atebion e-bost awtomataidd. Mae rhai cwmnïau ond yn cysylltu ag ymgeiswyr os ydynt am roi gwahoddiad iddynt i gyfweliad. Mae hyn yn fwy tebygol os byddant yn cael nifer uchel o geisiadau am swydd.
Cadw a dileu cyfrifon defnyddwyr
Pan fydd dros 13 mis ers i chi ddefnyddio'ch cyfrif, byddwn yn anfon e-bost atoch. Os na fyddwch yn mewngofnodi i'ch cyfrif o fewn mis ar ôl yr e-bost, bydd yn rhaid i chi greu cyfrif newydd. Mae hyn yn golygu y bydd eich holl wybodaeth a arbedwyd yn eich hen gyfrif yn cael ei cholli.
Os ydych yn anabl
Nod y cynllun Hyderus o Ran Anabledd yw cefnogi pobl anabl a'u helpu i gyflawni eu potensial yn y gweithle.
Dewch o hyd i gyflogwyr Hyderus o Ran Anabledd yn Hyderus o Ran Anabledd: cyflogwyr sydd wedi ymuno. Gallwch chwilio am y cyflogwyr hynny yn ôl enw ar y wefan hon.
Diogelwch
Os oes gennych bryderon am swydd a hysbysebir, dewiswch 'Rhoi gwybod am swydd' ar y dudalen swyddi. Disgrifiwch beth rydych yn poeni amdano yn y blwch sylwadau.
Os oes gennych bryderon am gyflogwr, defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni a dewiswch 'Rwy'n Geisiwr Gwaith ac mae gen i gŵyn am gyflogwr'. Dywedwch wrthym beth rydych yn poeni amdano a chynnwys cyfeiriad gwe'r swydd (URL) neu ID swydd.
Os dywedir wrthym fod cwmni'n torri amodau a thelerau cyflogwr, byddwn yn ymchwilio ac yn dileu'r hysbysiad(au) swydd os bydd angen. Enghraifft o doriad yw os nad yw cyflogwr yn ei gwneud hi'n glir bod ffi ymlaen llaw, neu os ydynt yn gofyn i bobl gymryd rhan mewn twyll. Gellir hefyd cymryd camau pellach yn erbyn y cyflogwr.
Mae'r wefan hon yn darparu gwasanaeth am ddim i gyflogwyr hysbysebu swyddi ac i bobl sy'n chwilio am swyddi i bostio CV. Os ydych yn chwilio am swydd, mae'n rhaid i chi benderfynu a ydych am wneud cais yn seiliedig ar y wybodaeth yn yr hysbyseb swydd a'ch cyfathrebu â'r cyflogwr.
Peidiwch byth â rhoi'r wybodaeth ganlynol yn eich CV, llythyrau eglurhaol neu geisiadau am swydd:
- manylion banc
- rhif Yswiriant Gwladol
- dyddiad geni
- unrhyw wybodaeth arall nad yw'n berthnasol i'r broses ymgeisio
Gwyliwch am sgamiau
Mae'n syniad da canfod cymaint ag y gallwch am unrhyw gwmni sy'n cynnig swydd i chi. Mae hyn yn hynod o bwysig os gofynnir i chi ddweud wrthynt am wybodaeth bersonol, neu dalu am wiriadau (er enghraifft gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) cyn y gallwch gymryd y swydd.
Darganfyddwch ble y byddwch yn gweithio a phryd. Bydd hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi i wneud eich gwiriadau eich hun ar y cwmni.
Gwyliwch am y peryglon canlynol:
- cyfathrebu trwy e-bost yn unig
- mae'r gofynion neu'r cymwysterau'n ymddangos yn rhy syml
- gallwch weithio o gartref neu am ddim ond 2-3 awr y dydd
- Cymraeg neu Saesneg gwael, camgymeriadau gramadegol a sillafu
- mae'r swydd yn cynnwys rheoli trafodion ariannol
- disgwylir i chi ail-becynnu pethau neu eu hanfon o'ch cartref eich hun
- rydych yn cael eich talu o arian rydych chi'n tynnu allan o gyfrif banc
Bydd y pethau hyn yn eich helpu i benderfynu a yw e-bost neu hysbysiad swydd yn un go iawn. Pan mae gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â chael eich rhuthro. Dilynwch y ffordd rydych yn teimlo a gwnewch wiriadau ychwanegol.
Os yw swydd yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod.
Am gyngor am chwilio am swyddi'n ddiogel ar-lein, ewch i Get safe online a JobsAware.
Sgamiau WhatsApp
Yn gynyddol, mae sgamwyr yn dynwared recriwtwyr ac yn estyn allan at geiswyr gwaith am gyfleoedd gwaith ffug trwy WhatsApp. Maent yn gwneud hyn i gael gafael ar wybodaeth bersonol neu ofyn am daliad.
Cadwch lygad allan am yr arwyddion rhybudd hyn:
- mae'r neges yn ddigymell ac yn dod o rif ffôn nad ydych yn ei adnabod
- maent yn gofyn am wybodaeth bersonol, fel eich CV, neu'n gofyn am arian
- mae'r hysbyseb swydd yn edrych yn rhy dda i fod yn wir - maent yn cynnig cyflogau neu drefniadau gweithio afrealistig
- mae'r hysbyseb swydd wedi'i ysgrifennu'n wael ac mae'n cynnwys gwallau sillafu
- maent yn rhoi pwysau arnoch i weithredu'n gyflym
Ni fydd tîm Dod o hyd i swydd byth yn cysylltu â chi trwy WhatsApp. Os ydych yn derbyn neges amheus, peidiwch ag ymateb a rhowch wybod am hyn i Action Fraud ar y ddolen hon neu drwy decstio'r rhif (neu anfon y neges ymlaen) yn rhad ac am ddim i 7726.
Porwyr
Gellir defnyddio'r wefan hon ar bob porwr rhyngrwyd. Ond mae'r safle'n gweithio orau ar:
- Internet Explorer 9 a diweddarach
- Firefox (fersiwn diweddaraf)
- Chrome (fersiwn diweddaraf)
- Safari 9.3 a diweddarach
Os cewch unrhyw broblemau technegol, ceisiwch wneud y pethau hyn:
- gwnewch yn siŵr bod gennych y fersiwn ddiweddaraf o'ch porwr
- clirwch cache eich porwr
- galluogi neu ddileu eich cwcis
- cau pob ffenestr porwr sy'n agored, yna eu hail-agor i fewngofnodi eto
Os ydych yn dal i gael problemau, mewngofnodwch i'ch cyfrif a defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni i ddweud wrthym beth sy'n anghywir. Mae hefyd yn ddefnyddiol os gallwch ddweud wrthym beth rydych eisoes wedi'i wneud i geisio ei datrys. Byddwn yn anelu at ddod yn ôl atoch o fewn 1 diwrnod wythnos.
Cyflogwyr
I sefydlu cyfrif a hysbysebu swydd, ewch i adran cyflogwyr o’r wefan.