Polisi defnydd derbyniol
Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau hyn
Darllenwch y telerau defnydd hyn a'r dogfennau cyfatebol yn ofalus. Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'Dod o hyd i swydd', rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau hyn ac rydych yn cytuno i gydymffurfio â hwy. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau hyn, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r wefan a'r cynnwys ar-lein ar unwaith.
Beth sydd yn y Polisi hwn?
Mae'r polisi defnydd derbyniol hwn yn nodi'r safonau y mae DWP yn eu disgwyl wrth i chi ddefnyddio'r wefan (https://www.findajob.dwp.gov.uk), cysylltu â Defnyddwyr eraill ar ein gwefan, cysylltu â'n gwefan, neu ryngweithio â'n gwefan mewn unrhyw ffordd arall. Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd gwaith trwy ddarparu Defnyddwyr y llwyfan i ryngweithio.
Eich cyfrifoldeb chi
Mae'n rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel
Os ydych yn dewis, neu os cewch eich darparu gyda, cyfrif neu gyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o'n gweithdrefnau diogelwch, mae'n rhaid i chi drin gwybodaeth o'r fath yn gyfrinachol. Ni ddylech ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti.
Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw gyfrif, p'un ai a ddewiswyd gennych chi neu a ddyrannwyd gennym ni ar unrhyw adeg, os yn ein barn resymol ni eich bod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau defnydd hyn.
Os ydych yn gwybod neu'n amau bod unrhyw un heblaw chi'n gwybod eich cyfrinair defnyddiwr, rhaid i chi ailosod eich cyfrinair yn syth.
Ni ddylech ddibynnu ar y wybodaeth ar y wefan hon yn unig
Darperir y cynnwys ar ein gwefan ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Efallai yr hoffech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu atal o wneud, unrhyw weithred ar sail y cynnwys sydd ar ein gwefan.
Er ein bod yn gwneud ymdrech rhesymol i ddiweddaru'r wybodaeth ar ein gwefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau neu warantau, boed yn mynegi neu'n awgrymu bod y cynnwys ar ein gwefan yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfoes.
Defnydd gwaharddedig
Gallwch ond defnyddio ein gwefan at ddibenion cyfreithlon. Ni allwch ddefnyddio ein gwefan:
- mewn unrhyw ffordd sy'n torri unrhyw gyfraith neu reoliadau lleol, cenedlaethol neu ryngwladol
- at ddibenion niweidio neu geisio achosi niwed
- i ddefnyddio cyfrif rhywun arall
- i lwytho cynnwys niweidiol, anghywir, sarhaus neu anghyfreithlon
- i geisio hacio, aflonyddu neu ddifrodi'r safle
- i ddefnyddio ein cynnwys yn fasnachol heb ganiatâd
- i lwytho malware (meddalwedd maleisus, er enghraifft firysau cyfrifiadurol)
Ni fyddwch heb awdurdod, yn ymyrryd â, difrodi neu'n aflonyddu:
- unrhyw ran o'n gwefan;
- unrhyw offer neu rwydwaith y mae ein gwefan yn cael ei storio arno;
- unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu ein gwefan; neu
- unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy'n eiddo i neu'n cael ei ddefnyddio gan unrhyw drydydd parti
Torri'r polisi hwn
Pan ystyriwn fod torri'r polisi defnydd derbyniol hwn wedi digwydd, efallai y byddwn yn cymryd unrhyw gamau a ystyriwn i fod yn briodol. Gallwn naill ai:
- rhoi rhybudd i chi
- dileu'ch cyfrif ar unwaith (tynnu'n ôl eich hawl i ddefnyddio ein gwefan dros dro neu'n barhaol)
- cael gwared ar unrhyw gynnwys sydd wedi'i lwytho i fyny i'n gwefan gennych yn syth, dros dro neu'n barhaol
- ystyried camau cyfreithiol yn eich erbyn
- datgelu gwybodaeth o'r fath i awdurdodau gorfodi'r gyfraith fel y teimlwn sy'n rhesymol i fod ei angen neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
Cyfrifoldeb DWP
Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod y gwasanaeth hwn ar gael, yn rhydd o firws a bod y wybodaeth a ddarparwn yn gywir ac yn gyflawn.
Nid ydym yn gyfrifol am:
- chi'n methu defnyddio'r wefan, er enghraifft os nad yw ar gael oherwydd materion cynnal a chadw neu dechnegol. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw ddiffyg argaeledd i'n cyflenwr, Adzuna
- unrhyw fath o golled neu ddifrod o ganlyniad i ddefnyddio'r safle
- cywirdeb swydd disgrifiadau ac unrhyw gynnwys defnyddiwr arall
- cynnwys gwefannau eraill rydym yn cysylltu â hwy
Nid yw'r DWP yn hawlio hawliau, perchenogaeth na rheolaeth dros y cynnwys a lwythir i'r wefan gan ddefnyddwyr. Mae'r person neu'r sefydliad sy'n llwytho'r Cynnwys Defnyddiwr yn cadw'r hawliau eiddo deallusol ac yn llwyr gyfrifol am amddiffyn hawliau ei Eiddo Deallusol.
Cyfreithiau pa wlad sy'n berthnasol i unrhyw anghydfodau?
Mae'r telerau ac amodau'n cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr. Os oes anghydfod, ymdrinnir â hi yn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.
Polisïau Eraill
Dylid darllen y polisi defnydd derbyniol ochr yn ochr â pholisi preifatrwyddttr a'r polisi cwcis.
Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i delerau'r polisi hwn
Gallwn ddiweddaru ein polisi defnydd derbyniol ar unrhyw adeg. Edrychwch ar y dudalen hon yn rheolaidd i gael gwybod am y diweddariadau.
Diweddarwyd y telerau defnyddio hyn ddiwethaf ar 13 Ebrill 2018.