Swyddog Ystadegol a Dadansoddi Risg
| Dyddiad hysbysebu: | 09 Mawrth 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £39,152 i £39,862 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 29 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | CF72 8LX |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | South Wales Fire and Rescue Service |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | NU198 |
Crynodeb
Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 29.03.2026 am hanner dydd.
Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w/c 30.03.2026
Disgwylir I’r cyfweliadau gael eu cynnal: w/c 06.04.2026
Mae swydd wag barhaol wedi codi o fewn yr Adran Perfformiad Gwasanaeth a Chyfathrebiadau yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a leolir yn ein Pencadlys, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX.
Ein gweledigaeth yw i wneud De Cymru'n ddiogelach wrth leihau risg. Fel Swyddog Ystadegol a Dadansoddi Risg, byddwch chi'n ymuno â thîm sy'n canolbwyntio ar ddarparu dadansoddiad i gefnogi penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r tîm yn gyfrifol am ddadansoddi a dehongli data a gwybodaeth o bob rhan o'r Gwasanaeth gan gynnwys gwybodaeth rifiadol, ysgrifenedig, graffigol a geoofodol. Bydd gennych brofiad o werthuso a rheoli setiau data cymhleth, gan gydnabod pwysigrwydd mewnwelediadau data i sicrhau gwelliant mesuradwy. Bydd eich sgil yn gwneud data'n hygyrch i ddefnyddwyr ar bob lefel, gan gynnwys ein partneriaid a'r cyhoedd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn rheoli ac yn adrodd ar ein perfformiad yn effeithiol yn unol â'r holl ofynion deddfwriaethol perthnasol ac yn darparu gwybodaeth amserol, o ansawdd i'n rhanddeiliaid.
Mae profiad o gyfres gymwysiadau MS Office yn enwedig Excel, Pwynt Pŵer ac Outlook yn hanfodol. Rydym yn defnyddio SQL a QGIS yn rheolaidd i ymholi a delweddu data - byddai profiad o'r rhain neu systemau tebyg yn fuddiol, ond darperir hyfforddiant. Mae sgiliau trefniadol rhagorol, cywirdeb a chynnig sylw i fanwl gywirdeb hefyd yn hanfodol i’r rôl. Bydd y swydd heriol hon yn gofyn bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n gydweithredol â phersonél Gwasanaethau Tân ac Achub eraill ac felly mae'r gallu i deithio'n ofynnol. Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Byddwch yn cael eich lleoli yn ein Pencadlys yn Llantrisant.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y rôl swydd, fe’ch gwahoddir i gysylltu â’n Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Risg David Canning drwy law e-bost: d-canning@southwales-fire.gov.uk
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Llwyddiannus yn ogystal â phrawf cyffuriau ac Alcohol cyn y gwneir unrhyw benodiad.
• Cytundeb: Parhaol
• Gradd: 11
• Cyflog: £39,152 i £39,862
• Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
• Cyfarwyddiaeth: Adran Perfformiad Gwasanaeth a Chyfathrebiadau
• Cyfeirnod Swydd: NU198
• Lleoliad: Pencadlys, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX