Dewislen

Swyddog Cludo’r Storfeydd

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 03 Mawrth 2026
Cyflog: £25,584 i £25,992 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 24 Mawrth 2026
Lleoliad: CF72 8LX
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae swydd barhaol ar gyfer Swyddog Storfeydd wedi codi o fewn adran Gaffael yr Adran Cyllid, Caffael ac Eiddo ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân, Llantrisant.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gwasanaeth prynu, gwasanaeth cownter, gwasanaeth dosbarthu o ddydd i ddydd yn ogystal â chynorthwyo â gweinyddu’r storfeydd, gan gynnwys cynnal lefelau stoc, gwirio pryniannau, derbynebu nwyddau a gwneud trefniadau ar gyfer atgyweiriadau arbenigol a delio â phroblemau arbenigol ledled y sefydliad..

Bydd yr Ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 37 awr yr wythnos, ac mae Cynllun Gweithio Hyblyg yn weithredol. Mae'r rôl yn cynnwys teithio rhwng safleoedd ledled De Cymru a rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu teithio'n annibynnol.

Gwneud cais am y swydd hon