Menu

Goruchwyliwr Cymorth Busnes

Job details
Posting date: 05 March 2026
Salary: £39,152 to £39,862 per year
Hours: Full time
Closing date: 27 March 2026
Location: CF72 8LX
Remote working: On-site only
Company: South Wales Fire and Rescue Service
Job type: Permanent
Job reference: NU290

Apply for this job

Summary

Mae cyfle prin a chyffrous wedi codi o fewn yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer Goruchwyliwr Cymorth Busnes parhaol a leolir ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Ein cenhadaeth yw gwneud De Cymru yn fwy diogel drwy leihau risg ac fel Goruchwyliwr Cymorth Busnes, byddwch yn goruchwylio swyddogaethau Cymorth Busnes ac Ysgrifenyddiaeth y Gwasanaeth, gan gynnwys:
• Gwasanaethau Ysgrifenyddiaeth
• Gwasanaethau Aelodau
• Gwasanaethau Derbynfa
• Gwasanaethau Cymorth Busnes

Darparu gwasanaethau effeithiol, effeithlon a dibynadwy sy'n bodloni anghenion y sefydliad. Sicrhau bod safonau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt yn cael eu gweithredu, eu dilyn a'u hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn addas at y diben.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad profedig o sicrhau bod gwasanaeth gweinyddol ac ysgrifenyddol cyffredinol yn cael ei ddarparu'n effeithiol ar gyfer sefydliad yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o ddarparu cefnogaeth effeithiol i aelodau pwyllgorau a grwpiau i alluogi trefniadau llywodraethu effeithiol ar gyfer sefydliad.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae hon yn swydd amser llawn gydag oriau hyblyg yn unol â chynllun amser hyblyg y Gwasanaeth.
Gall y rôl hon gynnwys teithio achlysurol rhwng safleoedd ledled ardal De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol, a bydd angen gwiriad trwydded yrru.

Apply for this job