Dewislen

Gweinyddwr Bywyd Myfyrwyr

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 19 Chwefror 2026
Cyflog: £26,942 i £29,959 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 25 Chwefror 2026
Lleoliad: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: BU03969

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Rydym yn awyddus i benodi Gweinyddwr Bywyd Myfyrwyr, rhan amser (7.25 awr y wythnos) parheol, i weithio fel aelod o'r tîm Gweinyddiaeth a Chefnogi Busnes yn darparu cefnogaeth effeithiol drwy weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr mewn perthynas â’r gwasanaethau a gynhigir i fyfyrwyr gan gynnwys Llesiant a Chynwysoldeb a gwasanaethau’r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, gyda'r gallu i ymdrin yn sensitif ac yn bwyllog â sefyllfaoedd sy'n achosi straen. Bydd gennych sgiliau rhagorol o ran technoleg gwybodaeth a threfnu a byddwch yn gallu cwrdd â therfynau amser, a gwneud gwaith cywir a rhoi sylw i fanylion. Byddwch yn gallu defnyddio systemau cronfeydd data ac yn gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at safon 2 gymhwyster Uwch Gyfrannol neu 1 cymhwyster Safon Uwch neu NVQ Lefel 3 mewn pwnc perthnasol (e.e. Gweinyddiaeth Busnes) neu brofiad cyfatebol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl a chyflawni tasgau megis ysgrifennu negeseuon e-bost yn Gymraeg i amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn hanfodol i’r swydd hon.

Bydd y swydd wedi ei lleoli ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Dynamig (https://www.bangor.ac.uk/humanresources/dynamicwork.php.cy), bydd opsiwn hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Allison Thomas, Uwch Swyddog - Gweinyddu Bywyd Myfyrwyr, Y Gofrestrfa: Cydymffurfiaeth, e-bost allison.thomas@bangor.ac.uk, Ffôn: 01248 38 2572

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon