Dewislen

Cydlynydd Profiad Myfyrwyr (Cyfnod Mamolaeth)

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 09 Chwefror 2026
Cyflog: £26,942 i £29,959 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 24 Chwefror 2026
Lleoliad: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03957)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd

Cydlynydd Profiad Myfyrwyr (Cyfnod Mamolaeth)

(Cyf: BU03957)

Graddfa: 5 - £26,942 - £29,959 y flwyddyn (pro rata)

Mae adran Profiad Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn awyddus i benodi unigolyn sydd â chymwysterau addas ac sy’n hynod frwdfrydig er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel ar draws y Brifysgol.

Swydd lawn amser (36.25 awr yr wythnos) yw hon, am gyfnod penodol o 9 mis dros absenoldeb mamolaeth. Bydd yr oriau’n bennaf rhwng 9:00am a 5:00pm, gyda gwaith achlysurol gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ôl yr angen.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cefnogi’r gwaith o amserlennu a rhannu cyfathrebiadau â myfyrwyr, trwy baratoi cynnwys drafft a chasglu gwybodaeth gan gydweithwyr, a chynorthwyo i gynnal tudalennau gwe i fyfyrwyr, gan sicrhau y gwneir ceisiadau am ddiweddariadau ac y cânt eu cyhoeddi'n brydlon.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at naill ai 2 Lefel AS neu 1 Lefel A neu NVQ Lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol.

Mae disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd o 01/03/2026.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Bydd y swydd wedi ei lleoli ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 24 Chwefror, 2026.

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag: Ash James, Rheolwr Profiad Myfyrwyr a.james@bangor.ac.uk

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon