Dewislen

Cynghorydd Anabledd (Cyfnod Mamolaeth)

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 06 Chwefror 2026
Cyflog: £38,249 i £45,413 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 22 Chwefror 2026
Lleoliad: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03960)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb

Cynghorydd Anabledd (Cyfnod Mamolaeth)

(Cyf: BU03960)

Graddfa 7: £38,249 - £45,413

Mae cyfle newydd ar gael i ymgynghorydd anabledd yn y Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb, o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma swydd amrywiol fel rhan o dîm o ymgynghorwyr sy'n cefnogi ymgeiswyr a myfyrwyr anabl yn y brifysgol. Mae'r swydd yn un cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth) am flwyddyn, o fis Ebrill 2026, ac mae'n 80% cyfwerth ag amser llawn.

Mae swydd yr Ymgynghorydd Anabledd yn cynnwys cyfrifoldebau eang yn ymwneud â rhoi cefnogaeth i ymgeiswyr anabl a myfyrwyr anabl ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys nodi strategaethau i gael gwared â rhwystrau i astudio a sicrhau y gwneir addasiadau rhesymol yn yr amgylchedd addysgu a dysgu ledled y sefydliad. Ceir tîm o ymgynghorwyr anabledd sy'n cynnal ac yn datblygu ymhellach wasanaeth cynghori proffesiynol i fyfyrwyr, gan gynghori a gweithio gyda chydweithwyr ledled y brifysgol i hyrwyddo darpariaeth gynhwysol. Mae cydweithio ag ysgolion academaidd a gwasanaethau eraill yn rhan allweddol o'r swydd i ddatblygu polisi, gweithdrefnau a chefnogi’r gwaith o ymgorffori ymarfer cynhwysol yn ymwneud â myfyrwyr anabl.

Dyma swydd amrywiol fel rhan o dîm o ymgynghorwyr sy'n cefnogi ymgeiswyr a myfyrwyr anabl yn y brifysgol.

Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg at lefel gradd (neu gyfwerth) a phrofiad o gefnogi myfyrwyr anabl mewn addysg ôl-16.

Mae dealltwriaeth o anghenion penodol myfyrwyr gydag amrywiaeth eang o amhariadau, gan gynnwys awtistiaeth ac amhariadau corfforol a synhwyraidd; y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu; model cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo annibyniaeth a gwydnwch ein myfyrwyr er mwyn eu paratoi at eu hastudiaethau neu eu hamcanion gyrfa yn y dyfodol ynghyd â gwybodaeth ymarferol am Lwfans Myfyrwyr Anabl ac ymwybyddiaeth o ddarpariaethau Deddf Cydraddoldeb (2010) mewn perthynas â myfyrwyr ac ymgeiswyr anabl yn hanfodol.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd ar 8 Ebrill 2026, neu cyn gynted â phosib wedi hynny.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd. Disgwylir i ymgeiswyr ateb cwestiynau yn y Gymraeg a'r Saesneg yn ystod y cyfweliad.

Mae’r swydd yn amodol ar gliriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd y swydd wedi ei lleoli ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865 neu anfon e-bost i hrassistants@bangor.ac.uk.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 22 Chwefror, 2026.

Cynhelir y cyfweliadau ar: 5 Mawrth, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Esther Griffiths, Rheolwr Cynwysoldeb, esther.griffiths@bangor.ac.uk

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon