Dewislen

Gweinyddwr Myfyrwyr

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 17 Chwefror 2026
Cyflog: £26,942 i £29,959 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 03 Mawrth 2026
Lleoliad: Bangor, Gwynedd
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03926)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gweinyddu Myfyrwyr

Gweinyddwr Myfyrwyr

(Cyf: BU03926)

Graddfa 5: £26,942 - £29,959 y flwyddyn

Gwnewch wahaniaeth i brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Rydym yn chwilio am Weinyddwr brwdfrydig a threfnus i ymuno â'n tîm Gweinyddu Myfyrwyr ar sail barhaol a llawn amser. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr lle bydd eich cyfraniad yn helpu i lunio profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.

Fel Gweinyddwr Myfyrwyr byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol hanfodol ar draws ystod o weithgareddau, gan gynnwys rheoli prosesau asesu ac arholi hyd ennill cymwysterau a graddio, yn ogystal â darparu cefnogaeth ar gyfer rhai o weithgareddau allweddol y Brifysgol megis cofrestru a ymrestru. Byddwch hefyd yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau yn yr Hyb, gan ddelio ag ymholiadau myfyrwyr mewn modd effeithlon a phroffesiynol, a helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn cefnogaeth glir, amserol a chyfeillgar.

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn sydd â sgiliau trefnu rhagorol a llygad craff am fanylion, a fyddai'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm sy'n darparu gwasanaeth cwsmer o ansawdd uchel, sy'n gyfforddus yn ymdrin â thasgau gweinyddol arferol a rheoli blaenoriaethau cystadleuol, ac sy'n gallu cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol ag ystod eang o bobl. Mae bod â phrofiad o ymdrin ag ymholiadau a rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr a staff academaidd yn hanfodol.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at naill ai 2 gymhwyster Uwch Gyfrannol neu 1 cymhwyster Safon Uwch neu NVQ Lefel 4 mewn pwnc perthnasol (e.e. Gwasanaeth Cwsmer neu Weinyddiaeth Busnes) neu brofiad cyfatebol.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol yn y swydd hon.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 3 Mawrth, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Gillian Griffith, Rheolwr y Gofrestrfa: Gweinyddu Myfyrwyr, e-bost: g.griffith@bangor.ac.uk, Ffôn: 01248 382181.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon