Dewislen

Assistant Operations Manager

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 12 Chwefror 2026
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 26 Chwefror 2026
Lleoliad: Conwy County, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: REQ007021

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Lleoliad gwaith: Depo Abergele/ Tan Y Gopa

Ydi newid yn rhoi egni i chi ac ydych chi’n cael eich ysbrydoli gan y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol? Ydych chi’n ffynnu ar ddod o hyd i ffyrdd mwy clyfar, mwy effeithlon o weithio a siapio gwasanaethau rheng flaen o safon uchel. Os felly, mae Conwy - sydd wedi’i leoli yn nhirwedd syfrdanol gogledd Cymru - yn cynnig y lle perffaith i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa arweinyddol.

Fel Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol, byddwch yn chwarae rôl hollbwysig yn rheoli a thrawsnewid ein gwasanaethau Priffyrdd, Glanhau Strydoedd a Hawliau Tramwy o fewn ardal ddaearyddol benodol. Mae ein timau mewnol yn cyflwyno amrywiaeth eang o swyddogaethau gweithredol, yn cynnwys gwaith trwsio ar lwybrau troed a ffyrdd cerbydau, chwistrellu chwyn, gwaith cynnal a chadw’r gaeaf, ysgubo ffyrdd, casglu sbwriel a gwagio biniau stryd. Dyma swydd ble gall eich arsylwadau a’ch arloesedd ddylanwadu’n uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae preswylwyr yn eu profi bob dydd.

Fe fyddwch chi hefyd yn gweithredu fel Swyddog Dyletswydd Rheoli/Rhagweld yn ôl trefn rota, gan helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau’n ymatebol, yn wydn ac wedi’u cydlynu’n dda. I lwyddo, bydd gennych sgiliau trefnu cryf, gallu i arwain ac ysbrydoli timau gweithredol amrywiol, a’r hyder i herio arferion presennol er mwyn gyrru gwelliant parhaus. Rydym ni’n chwilio am rywun sydd â hanes clir o gyflwyno newid cadarnhaol, ynghyd â chreadigrwydd, chwilfrydedd ac ymrwymiad i ragoriaeth.

Mae sgiliau cyfathrebu clir yn hollbwysig gan y byddwch chi’n gweithio’n agos gyda’r cyhoedd, aelodau etholedig ac uwch arweinwyr ar draws yr Awdurdod.

Os ydych chi’n chwilio am swydd sydd yn cynnig pwrpas, amrywiaeth a’r cyfle i wir siapio dyfodol gwasanaethau lleol—tra’n parhau i dyfu eich sgiliau a’ch arbenigedd eich hun—fe allai hwn fod yn gyfle perffaith i chi.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sophie Birchall-Rogerson Rheolwr Gweithrediadau 01492 574158 Sophie.birchall-rogerson@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.

Work base: Abergele/ Tan Y Gopa Depot

Are you energised by change and motivated by the opportunity to make a real impact? Do you thrive on finding smarter, more efficient ways of working and shaping high quality frontline services? If so, Conwy – set in the stunning landscapes of North Wales – offers the perfect place to take the next step in your leadership career.

As Assistant Operations Manager, you will play a pivotal role in the management and transformation of our Highways, Street Cleansing and Rights of Way services within a defined geographic area. Our in house teams deliver a broad range of essential operational functions, including footway and carriageway repairs, weed spraying, winter maintenance, road sweeping, litter picking and street bin collections. This is a role where your insight and innovation can directly influence the services that residents experience every day.

You will also act as Duty Control / Forecasting Officer on a rota basis, helping to ensure our services remain responsive, resilient and well coordinated. To succeed, you’ll bring strong organisational skills, proven ability to lead and inspire diverse operational teams, and the confidence to challenge existing practices to drive continuous improvement. We’re looking for someone with a clear track record of delivering positive change, combined with creativity, curiosity and a commitment to excellence.

Excellent communication skills are essential, as you’ll work closely with the public, elected members and senior leaders across the authority.

If you’re seeking a role that offers purpose, variety and the chance to truly shape the future of local services—while continuing to grow your own skills and expertise—this could be the perfect opportunity for you.

Manager details for informal discussion: Sophie Birchall-Rogerson Operations Manager 01492 574158 Sophie.birchall-rogerson@conwy.gov.uk

Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.








Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon