Housing Support Assistant
| Posting date: | 05 February 2026 |
|---|---|
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 19 February 2026 |
| Location: | Conwy County, Wales |
| Remote working: | Hybrid - work remotely up to 2 days per week |
| Company: | Conwy County Borough Council |
| Job type: | Temporary |
| Job reference: | REQ007013 |
Summary
Byddwch yn weithiwr proffesiynol rheng flaen yn darparu gwasanaeth modern a hyblyg o'r radd flaenaf i rai o'r bobl fwyaf diamddiffyn yn y Sir. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm o Gynorthwywyr Cymorth Tai i fod y pwynt cyswllt cyntaf i bobl sy'n profi digartrefedd neu mewn angen o dŷ. Gallai hyn fod yn bersonol neu dros y ffôn.
Rydym yn chwilio am rywun sydd eisiau helpu pobl a rhoi cymorth iddynt i gael yr help sydd ei angen arnynt i ddatrys eu problem Tai. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Swyddogion Asesu Datrysiadau Tai a'r Swyddogion ar Ddyletswydd i sicrhau brysbennu’n briodol, cyfeirio a mewnbynnu data achosion newydd i gefnogi'r gwasanaeth.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r gwasanaeth Datrysiadau Tai yng Nghonwy. Rydym ni wedi ailstrwythuro’r gwasanaeth yn ddiweddar wrth i ni fwrw ymlaen â'n Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym, gyda'r nod o wneud digartrefedd yn rhywbeth prin, byr, nad yw’n digwydd eto yn y Sir. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, uchel eu cymhelliant ac sydd am gael y canlyniadau gorau un i drigolion y Sir. Byddwch yn ymuno â thîm prysur a gweithgar yn ystod cyfnod o drawsnewid lle mae pob diwrnod yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae Datrysiadau Tai yn dîm rheng flaen ac mae’r gallu i fod yn hyblyg, blaenoriaethu gwaith a bod yn chwaraewr tîm yn allweddol i lwyddiant yn y rôl hon.
O fewn y tîm, byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi gan eich cydweithwyr hynod frwdfrydig ac ymroddedig. Mae yna hefyd dîm pwrpasol o reolwyr profiadol a chefnogol, sydd ar gael bob amser. Bydd y rheolwyr yn cynnig cymorth drwy oruchwyliaeth ffurfiol reolaidd a sesiynau cyswllt dyddiol anffurfiol.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio'n hyblyg o gartref ac o swyddfa 'Coed Pella' ym Mae Colwyn, sy'n eich galluogi i fod mewn cysylltiad ag adrannau partner gan gynnwys Gofal Cymdeithasol, Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Gwasanaethau Ieuenctid a llawer mwy. Rydym ni’n hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng bywyd a gwaith, a gallwn gynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio’n hyblyg.
Byddwch yn elwa o becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau blynyddol (gan ddibynnu ar wasanaeth blaenorol mewn Awdurdod Lleol), Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy’n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lisa Roberts, Arweinydd Tîm Datrysiadau Tai (01492 576341 / Lisa.roberts@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Do you want to make a difference to households in housing need? We are looking for an extremely motivated and resiliant individual to join our Housing Solutions Team to help prevent and relieve homelessness in Conwy.
You will be the frontline professional delivering a first class, modern and flexible service to some of the most vulnerable people in the County. You will work as part of a team of Housing Support Assistants to be the first point of contract for people experiencing homelessness or in housing need. This could be in person or over the phone.
We are looking for someone who wants to help people and provide assistance to them to get the help they need to resovle their Housing problem. You will work closely with the Housing Solutions Assessment Officers and Duty to ensure appropriate triaging, sign posting and data inputting of new cases to support the service.
This is an exciting time to be joining the Housing Solutions service in Conwy. We have recently restructured as we move forward with our Rapid Rehousing Transition Plan, aiming to make homelessness rare, brief and unrepeated in the County. We are seeking highly motivated and enthusiastic individuals who want to get the very best outcomes for residents of the County. You will be joining a busy and hardworking team during a time of transformational change where every day offers an opportunity to make a positive difference. Housing Solutions is a fast paced frontline team and the ability to be flexible, prioritise work and be a team player is the key to success in this role.
Within the team you will feel supported by your committed and highly motivated colleagues. There is also a dedicated team of experienced, supportive and readily available managers. The management support will be available through regular formal supervision and informal daily check-ins.
You will have the opportunity of working flexibly from both home and the state of the art ‘Coed Pella’ office in Colwyn Bay, which allows you to be in contact with partner departments including Social Care, Youth Justice, Education, Youth Services and many others. We promote and understand the importance of a positive and healthy work life balance and can offer a range of flexible working solutions.
You will benefit from a substantial rewards package, which includes a Local Government Pension Scheme, minimum of 26 days annual leave (depending on previous Local Authority service), Occupational Sick Pay and staff benefits including salary sacrifice cars, Cycle to Work, cashback healthcare, discounts plus much more.
Manager details for informal discussion: Lisa Roberts, Housing Solutions Team Leader (01492 576341 / Lisa.roberts@conwy.gov.uk)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post.
Proud member of the Disability Confident employer scheme