Inclusive Behavioural Support Worker
| Posting date: | 04 March 2026 |
|---|---|
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 18 March 2026 |
| Location: | Conwy, Conwy County |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | Conwy County Borough Council |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: | REQ007065 |
Summary
Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc?
Rydym ni’n frwd dros weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella ansawdd bywydau plant, pobl ifanc ac oedolion a’u galluogi i ‘fyw’r bywyd gorau posib’ drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy’n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Cyflawnir hyn trwy hyrwyddo a pharchu ‘Cymorth Gweithredol’, ‘Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol’, Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn’ a ‘Lleihau Arferion Cyfyngol’. Bydd rhoi’r unigolyn yng nghanol yr holl gynllunio cymorth a datblygu strategaethau yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau ym mhob agwedd ar eu bywydau dyddiol, adeiladu perthnasoedd cryf gyda’r rhai o’u cwmpas, datblygu sgiliau byw’n annibynnol a dod yn aelodau gweithgar o’u cymunedau lleol trwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Rydym yn edrych am bobl sy’n rhannu’r uchelgais hon a’n ffordd ni o weithio – i fod yn feiddgar, yn greadigol ac yn angerddol ac onest ym mhopeth a wnawn.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i ddechrau arni, does ond angen i chi ddod â’ch gwerthoedd personol ac yna gallwch hyfforddi wrth weithio. Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn ein gwasanaeth, gan fod cyfle i chi ennill cymwysterau, ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol neu ymgymryd â swyddogaethau ar gyfer datblygiad personol.
Mae datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda’r unigolion rydych yn eu cefnogi yn rhan allweddol o fod yn weithiwr cefnogi gwerthfawr. Felly, mae cael natur gyfeillgar, gefnogol gydag agwedd gadarnhaol at fywyd yn hanfodol ac mae angerdd dros gefnogi pobl i fod y gorau gallant yn ganolbwynt i ni!
Beth mae’r swydd yn ei olygu?
Yn bennaf, mae’r swydd yn golygu gweithio yn y Gwasanaeth Dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, a gofynnir i chi weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau; fe wnawn ni eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd y cartref.
Byddwch yn gallu cynorthwyo unigolion er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol mwy hirdymor.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu gweithgareddau llawn dychymyg, a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Byddwch yn gallu deall bod unigolion yn mynegi eu teimladau trwy ddefnyddio ymddygiad o bryder a bydd gennych ymagwedd sy’n credu yn eich gallu i ddysgu’r unigolion sut i gyfathrebu mewn ffordd wahanol, felly mae gwaith tîm yn allweddol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm yn y Gwasanaeth Dydd, y gymuned leol neu gartrefi teuluol. Byddwch yn ysgogi a chefnogi’r unigolyn i gymryd rhan mewn ystod eang o ddiddordebau arbennig a gweithgareddau sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles megis trampolinio, ymweld â’r traeth / parc, cerdded, nofio, pobi / coginio, chwarae gemau, canu a dawnsio, crefftau a mwy.
All you need to start your career in support work are your natural qualities.
Do you want to work to make a positive difference to the lives of children and young people?
We are passionate about working together to make a positive difference and improve the quality of lives of children, young people and adults to ‘have the best life possible’ by providing them with a supportive environment that is centred around their individual needs.
This will be achieved by promoting and valuing ‘Active Support’, ‘Positive Behaviour Support’, ‘Person Centred Planning’ and the ‘Reduction of Restrictive Practices’. By putting the individual at the centre of all support planning and developing strategies will enable him or her to develop skills in all aspects of their daily lives, building strong relationships with those surrounding them, developing independent living skills and becoming active members within their local communities through delivering high quality care.
We are looking for people who share this ambition and our way of working – to be bold, to be creative, to be passionate and to be honest in everything we do.
You don’t need any qualifications to get started, you just need to bring the right personal values, and you can then train while you work. There’s lots of opportunities to progress in a career in our service, as you can gain qualifications, undertake additional training or take on roles for personal development.
Building a positive and constructive relationships with the individuals you support is a vital component of being a valued support worker. Therefore, having a friendly, supportive nature with a positive outlook on life is essential and passionate about supporting people to be the best that they can be is what we are all about!
What will the job entail?
The role mainly involves working in the Day Service Monday to Friday and a requirement to work evenings and weekends, we will support you to have a home / work life balance.
You will support individuals to have their voice heard and support them to develop skills towards their longer-term future.
You will be able to plan and implement imaginative activities with the person that will also help them to develop skills.
Proud member of the Disability Confident employer scheme