Swyddog Datblygu Prosiectau
| Dyddiad hysbysebu: | 11 Chwefror 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £41,064.00 i £47,389.00 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 25 Chwefror 2026 |
| Lleoliad: | Pontypridd, Rhondda Cynon Taff |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | University of South Wales |
| Math o swydd: | Cytundeb |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Bydd y swydd wedi’i lleoli ym Mhontypridd, gyda’r opsiwn i weithio’n hybrid dros 5 diwrnod yr wythnos.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Catherine.stephens@decymru.ac.uk
Darganfyddwch fanteision gweithio i PDC: https://tinyurl.com/GweithioYnPDC
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol rannu'r ymrwymiad hwn.
Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol. Lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phob person yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.
Os ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n siarad Cymraeg, byddwn ni’n falch o dderbyn eich cais. Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd