Menu

Swyddog Datblygu Prosiectau

Job details
Posting date: 11 February 2026
Salary: £41,064.00 to £47,389.00 per year
Hours: Full time
Closing date: 25 February 2026
Location: Pontypridd, Rhondda Cynon Taff
Remote working: On-site only
Company: University of South Wales
Job type: Contract
Job reference:

Apply for this job

Summary

Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc, Cymraeg yn y Cartref a chyrsiau gweithle. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am Swyddog Datblygu Cymraeg Gwaith a Phrosiectau er mwyn cynllunio, monitro a datblygu’r ddarpariaeth o fewn Dysgu Cymraeg Morgannwg, un o 9 darparwyr Cymraeg i Oedolion o dan goruchwyliaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cynhelir y dosbarthiadau mewn lleoliadau amrywiol ar draws rhanbarth Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf, Merthyr ac ar lein.



Bydd y swydd wedi’i lleoli ym Mhontypridd, gyda’r opsiwn i weithio’n hybrid dros 5 diwrnod yr wythnos.



Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Catherine.stephens@decymru.ac.uk



Darganfyddwch fanteision gweithio i PDC: https://tinyurl.com/GweithioYnPDC



Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol rannu'r ymrwymiad hwn.



Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol. Lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phob person yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.



Os ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n siarad Cymraeg, byddwn ni’n falch o dderbyn eich cais. Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.



Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg.

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job