Swyddog Gweinyddol
| Posting date: | 11 February 2026 |
|---|---|
| Salary: | £25,804.00 to £28,778.00 per year |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 25 February 2026 |
| Location: | Pontypridd, Rhondda Cynon Taff |
| Remote working: | On-site only |
| Company: | University of South Wales |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: |
Summary
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn gyfrifol am ddarparu rhaglen o ddosbarthiadau a gwasanaethau Cymraeg i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Cynhelir y dosbarthiadau mewn lleoliadau amrywiol ar draws rhanbarth Penybont, RhCT a Merthyr a darperir gwersi ar lein.
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am Swyddog Gweinyddol sy’n siarad Cymraeg. Bydd y gweinyddwr yn rhan o dîm bach sy'n gofalu am yr holl waith gweinyddol. Bydd y swydd wedi’i lleoli ym Mhontypridd, gyda’r opsiwn i weithio’n hybrid dros 5 diwrnod yr wythnos. Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys darparu cymorth gweinyddol i’r Uned yn ei gyfanrwydd, cymorth i’r dysgwyr ym mhob elfen o’r broses ymrestru, casglu ffioedd, mewnbynnu data - monitro a’i dacluso, tasgau gweinyddol ariannol megis prynu, anfonebu a chreu derbynebau, ac ymdrin ag ymholiadau cyffredinol am gyrsiau.
Disgwylir i ymgeisydd y swydd weithio’n drefnus, meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau technoleg gwybodaeth effeithiol.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â helen.childs@decymru.ac.uk
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol / CBCDC (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau.
Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni yn PDC: https://tinyurl.com/PSSynPDC
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol rannu'r ymrwymiad hwn.
Rydym wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol. Lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phob person yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd a/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.
Os ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n siarad Cymraeg, byddwn ni’n falch o dderbyn eich cais. Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg.
Proud member of the Disability Confident employer scheme