Stiward ar y Trên Porthmadog
| Dyddiad hysbysebu: | 30 Ionawr 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | Heb ei nodi |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 01 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | LL49 9NF |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Festiniog Railway Company |
| Math o swydd: | Dros dro |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Rydym yn chwilio am stiward i weithio ar ein trenau ar naill ai Rheilffordd Ffestiniog neu Reilffordd Eryri.
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• Contract tymhorol o ddydd Llun 23ain o Fawrth 2026 i’r dydd Sadwrn 31ain o Hydref 2026
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllyn pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfaol
• Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys cyfarch teithwyr, darparu gwybodaeth ac adrodd straeon ffeithiol am y rheilffyrdd, gwerthu arweinlyfrau, a chynorthwyo i ddarparu ein gwasanaeth moethus yn y dosbarth Aur. Yn ogystal ar wasanaethau Rheilffordd Eryri bydd stiwardiaid yn darparu gwasanaeth lluniaeth troli wrth seddi.
Lleolir y swydd hyn ym Mhorthmadog, fodd bynnag efallai y gofynnir i aelodau'r tîm weithio o Gaernarfon, Blaenau Ffestiniog neu fannau cychwyn eraill o bryd i'w gilydd.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus frwdfrydedd dros weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Sgiliau Craidd:
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly bydd sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Rhaid bod yn daclus a chroesawgar
• Ymddangosiad smart gan ddilyn côd gwisg llym.
• Gallu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a chyfeillgar
• Rhagweithiol a gallu gweithio ar eich menter eich hun
• Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd.. Mae angen gwybodaeth am leoliadau ar y Rheilffyrdd a'u defnydd gan ymwelwyr ar gyfer y swydd yma, byddai gwybodaeth o Borthmadog a'r cyffiniau yn fanteisiol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, gyda hyd at 40 awr yr wythnos ar gael yn ystod tymor prysur yr haf.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd