Dewislen

Glanhawr Cerbydau

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 23 Ionawr 2026
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 22 Chwefror 2026
Lleoliad: LL48 6HT
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Festiniog Railway Company
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddwy o reilffyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, wedi’u lleoli yng nghanol prydferthwch Eryri. Rydym yn gweithredu trenau bob dydd o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Hydref.

Rydym yn chwilio am lanhawr cerbydau i weithio gyda’r tîm bychan i sicrhau cyflwyniad ardderchog ein cerbydau ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri.

Gallwn gynning i chi:
• £12.71 yr awr ar gyfer ymgeiswyr 21 oed ac drosodd (Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran yn berthnasol)
• Dau swydd ar gael: cytundeb tymhorol o Ddydd Sadwrn 28ain o Fawrth 2026 tan Ddydd Gwener 30fed o Hydref 2026 neu o Ddydd Sadwrn 23ain o Mai 2026 tan Ddydd Gwener 11eg o Fedi 2026
• Llawn amser (hyd at 40 awr yr wythnos)
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl , gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestru i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopao a chaffis

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau glanhau gan gynnwys glanhau cerbydau yn fewnol ac yn allanol, a dyletswyddau glanhau cyffredinol. Lleolir y swydd hon yn Boston Lodge, tua Porthmadog ac Gorsaf Harbwr, Porthmadog, fodd bynnag efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau eraill o bryd i'w gilydd. Rhaid eich bod yn gallu gweithio'n lân ac yn daclus; yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o lanhau masnachol, ond mae llawer o frwdfrydedd a pharodrwydd i weithio'n galed yn angenrheidiol gan y gellir darparu hyfforddiant llawn.

Sgiliau Craidd:
• Yn gallu darparu lefelau glendid rhagorol
• Bydd sgiliau cyfathrebu da a thueddiad siriol yn hanfodol
• Gallu gweithio ar eich menter eich hun neu yn ôl y cyfarwyddyd
• Gallu gweithio ar ben eich hun neu fel rhan o dîm bach
• Rhaid bod yn fodlon i weithio tu allan mewn pob tywydd
• Rhaid bod yn brydlon ac yn ddibynadwy bob amser
• Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantaisfel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a’u teithwyr, a’r ardal leol.

Dylai ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio sifftiau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos. Bydd y swydd hon yn gofyn am weithio ar eich pen eich hun weithiau. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr weithio mewn lleoliadau nad ydynt yn hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd angen cychwyn yn gynnar felly mae trwydded yrru lawn a mae mynediad at gludiant preifat yn hanfodol ar gyfer y rôl.

Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon