Menu

Swyddog Uned Asesu Risg Eilaidd

Job details
Posting date: 16 January 2026
Salary: £32,613 to £35,772 per year
Hours: Full time
Closing date: 27 January 2026
Location: SA312PD
Remote working: On-site only
Company: Dyfed-Powys Police
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Arall (manylwch)
Arall Maes Busnes / Adran
Uned Asesu Risg Eilaidd
Lleoliad
Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Sefydlog a Gweithredol
Gradd
E
Cyflog
£32,613 - £35,772
Lwfansau
Gweithio Penwythnos
Canran Sifft Gweithio Penwythnosau
5%
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
25 Chwefror 2026
Dyddiad cau
27/01/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Uned Asesu Risg Eilaidd yn Uned Asesu Risg Eilaidd.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

1. Bydd y swyddog Uned Asesu Risg Eilaidd yn gyfrifol am sicrhau ansawdd pob gradd risg cam-drin domestig, i ddarparu proses sicrhau ansawdd gynhwysfawr ledled yr ardal heddlu a sicrhau bod pob digwyddiad cam-drin domestig yn derbyn y lefel briodol o oruchwyliaeth ac ymateb. Bydd unrhyw newid i’r radd risg yn cael ei gyfathrebu i’r swyddog sydd â gofal dros yr achos drwy swyddogaeth pennu tasgau Niche.
2. Blaenoriaethu achosion gwarchodaeth domestig er mwyn sicrhau bod ansawdd asesiadau risg wedi’i sicrhau yn barod ar gyfer cyfarfodydd rheoli dyddiol.
3. Adolygu digwyddiadau domestig blaenorol a hanes Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer achosion Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth (MARAC), eu crynhoi a’u cyflwyno mewn galwadau cynhadledd MARAC dyddiol. Cwblhau a/neu bennu camau gweithredu’r heddlu o gynllun gweithredu MARAC dyddiol.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Apply for this job