Menu

Rheolwr Prosiect

Job details
Posting date: 06 March 2026
Salary: £43,668 to £47,046 per year
Hours: Full time
Closing date: 19 March 2026
Location: Carmarthen, Carmarthenshire
Remote working: Hybrid - work remotely up to 3 days per week
Company: Dyfed-Powys Police
Job type: Permanent
Job reference:

Apply for this job

Summary

Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Uned Gwella Gwasanaethau
Lleoliad Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg
Gradd G
Cyflog £43,668 - £47,046
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 22 Ebrill 2026
Dyddiad cau 19/03/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Rheolwr Prosiect yn Uned Gwella Gwasanaeth'/ TGCh.

1x Uned Gwella Gwasanaeth
1x TGCh
Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Bydd y daliwr swydd yn gyfrifol am reoli cyflenwi prosiectau, o’r cysyniad gwreiddiol hyd at y cam gweithredu, gan gynnwys prosiectau, newid sefydliadol, a gwella, nodi buddiannau, rheoli ac adrodd.



Disgwylir i’r daliwr swydd baratoi achos busnes (mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid uwch) gan sicrhau bod briffiau a chynigion dichonolrwydd, achosion busnes a chynlluniau prosiect yn cael eu datblygu yn unol â nodau ac amcanion y prosiect a hyd safonau rheoli prosiect. Sicrhau bod prosiectau a newid yn gadarn, yn seiliedig ar wybodaeth, ac yn dangos y manteision i’r heddlu’n glir.

Bydd y daliwr swydd yn cyflwyno prosiectau a newid o’r cysyniad gwreiddiol hyd at y cam gweithredu. Bydd yn canolbwyntio’n fanwl ar ddatrysiadau ac yn ddatryswr problemau medrus.

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o

Apply for this job