Swyddog Cwynion
| Posting date: | 11 March 2026 |
|---|---|
| Salary: | £28,914 to £30,897 per year |
| Hours: | Full time |
| Closing date: | 25 March 2026 |
| Location: | SA31 2PD |
| Remote working: | Hybrid - work remotely up to 3 days per week |
| Company: | Dyfed-Powys Police |
| Job type: | Permanent |
| Job reference: |
Summary
Heddlu
Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl
Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran
Safonau Proffesiynol
Lleoliad
Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
Hyblyg
Gradd
D
Cyflog
£28,914 - £30,897
Rhan/Llawn Amser
Llawn Amser
Oriau'r Wythnos
37
Math o Gytundeb
Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
1
Dyddiad Cyfweliad
15 Ebrill 2026
Dyddiad cau
25/03/26 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cwynion yn Safonau Proffesiynol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Derbyn, asesu a chofnodi cwynion yn erbyn yr heddlu.
Cymryd camau gweithredu, neu gydlynu camau gweithredu, er mwyn ymateb yn effeithiol (a datrys lle bo hynny’n briodol) i gwynion lefel is yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a chanllawiau cenedlaethol/lleol. Gall hyn gynnwys cyfathrebu ag achwynwyr drwy ffyrdd amrywiol er mwyn deall eu cwyn.
Sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei chasglu a’i dogfennu er mwyn hysbysu penderfyniadau cofnodi cwynion ffurfiol yn gywir gan yr Awdurdod Priodol.
Cynnal llwybr archwilio effeithiol o gamau gweithredu, gan sicrhau bod cronfa ddata Centurion yr adran yn cael ei defnyddio’n llawn a’i diweddaru, a hysbysu partïon â diddordeb fel y bo’n briodol.
Cynorthwyo’r Tîm Cwynion a Chamymddwyn yn ôl yr angen â materion sy’n gysylltiedig â chamymddwyn neu gŵyn sy’n unol â lefel a chyfrifoldebau’r rôl.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.