Cynorthwyydd Gwasanaethau Llety
| Dyddiad hysbysebu: | 12 Rhagfyr 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £24,334 i £26,338 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 09 Ionawr 2026 |
| Lleoliad: | Bangor, Gwynedd |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Bangor University |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | (Cyf: BU03929) |
Crynodeb
Prifysgol Bangor
Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gwasanaethau Llety
Cynorthwyydd Gwasanaethau Llety
(Cyf: BU03929)
Graddfa 4: £24,334 - £26,338 y flwyddyn.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser, barhaol uchod, yn gweithio fel rhan o'r Tîm Gwasanaethau Llety (a elwid gynt yn dîm Bywyd Preswyl) yn yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd.
Mae’r Tîm Gwasanaethau Llety yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig sy’n gallu cyfathrebu’n hyderus gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys defnyddio’r System Rheoli Llety ar-lein (Kinetic - Kx) i ddelio â dyrannu ystafelloedd, newid ystafelloedd ac anfonebu a materion ariannol eraill, ac ymateb i gwestiynau cyffredinol naill ai yn y cnawd, ar y ffôn a thros e-bost.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon TGAU, NVQ Lefel II (neu gyfwerth) mewn pwnc priodol, neu brofiad cyfatebol mewn swydd weinyddol neu glercyddol.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a byddwch yn fedrus wrth ddefnyddio technoleg gwybodaeth. Rhaid i chi, ar brydiau, fod yn barod i weithio oriau hyblyg yn ôl y gofyn (weithiau gyda’r nos ac ar benwythnosau), yn ystod adegau brig y flwyddyn ac ar ddiwrnodau agored a diwrnodau i ddeiliaid cynnig yn y brifysgol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl a chyflawni tasgau megis ysgrifennu negeseuon e-bost yn Gymraeg at amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn hanfodol i’r swydd hon.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 9 Ionawr, 2026.
Bydd y brifysgol yn cau ar 19 Rhagfyr, gellir gwneud unrhyw ymholiadau
anffurfiol yn yr wythnos sy'n dechrau 5 Ionawr, 2026.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Jeanette Wilson j.wilson@bangor.ac.uk neu Arran Higgs arran.higgs@bangor.ac.uk.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfarta