Dewislen

Rheolwr Gwasanaethau Llety

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 28 Tachwedd 2025
Cyflog: £46,735 i £55,755 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 12 Rhagfyr 2025
Lleoliad: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03900)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd

Rheolwr Gwasanaethau Llety

(Cyf: BU03900)

Graddfa 8: £46,735 - £55,755 y flwyddyn


Mae'r adran Gwasanaethau Llety ar flaen y gad o ran sicrhau profiad da i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor ac mae’r adran yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr. Ar hyn o bryd mae’r adran yn gyfrifol am dros 2500 o fyfyrwyr o fewn y portffolio llety, a rhaid iddo bodloni a rhagori ar ddisgwyliadau’r myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am reolwr profiadol i fod yn gyfrifol am arwain a rheoli’r tîm gweithredol preswyl, y tîm llety, y tîm cefnogaeth breswyl, a bod yn gyfrifol am gyflawni ein swyddogaethau cyfleusterau yn y Neuaddau Preswyl; gan sicrhau bod y safonau uchaf posibl o ran gwasanaeth a gofal cwsmeriaid yn cael eu cynnal.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg hyd at lefel gradd ôl-radd (neu lawer o brofiad proffesiynol a pherthnasol sy’n cyfateb i’r lefel honno).

Bydd gennych brofiad ym maes rheoli pobl a rheoli arian a byddwch yn canolbwyntio ar gwsmeriaid ac yn croesawu newid. Byddwch yn arwain a datblygu eich tîm i ymateb yn gadarnhaol ac yn effeithiol. Bydd gennych brofiad o feithrin cysylltiadau cydweithredol gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid. Bydd gennych brofiad o reoli cyllidebau a chyfleusterau, yn ddelfrydol mewn lleoliad preswyl sy’n rhoi pwys mawr ar wasanaeth cwsmeriaid.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Bydd y swydd wedi ei lleoli ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch gofynion y rôl cysylltwch â d.mcintyre@bangor.ac.uk

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 382646.

Dyddiad cau ceisiadau: 12 Rhagfyr, 2025.

Byddwch yn cael gwybod a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio erbyn 5yh ar 19 Rhagfyr. Gan fod y Brifysgol ar gau dros y Nadolig cynhelir cyfweliadau ym mis Ionawr 2026.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon