Gweinyddwr Bywyd Myfyrwyr
| Dyddiad hysbysebu: | 08 Rhagfyr 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £26,942 i £29,959 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 05 Ionawr 2026 |
| Lleoliad: | LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad. |
| Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos |
| Cwmni: | Bangor University |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | (Cyf: BU03933) |
Crynodeb
Prifysgol Bangor
Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gweinyddu Myfyrwyr
Gweinyddwr Bywyd Myfyrwyr
(Cyf: BU03933)
Graddfa 5: £26,942 - £29,959 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i benodi Gweinyddwr Bywyd Myfyrwyr i weithio fel aelod o'r tîm Gweinyddiaeth a Chefnogi Busnes yn darparu cefnogaeth effeithiol drwy weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr mewn perthynas â’r gwasanaethau a gynhigir i fyfyrwyr gan gynnwys Llesiant a Chynwysoldeb a gwasanaethau’r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, gyda'r gallu i ymdrin yn sensitif ac yn bwyllog â sefyllfaoedd sy'n achosi straen. Bydd gennych sgiliau rhagorol o ran technoleg gwybodaeth a threfnu a byddwch yn gallu cwrdd â therfynau amser, a gwneud gwaith cywir a rhoi sylw i fanylion. Byddwch yn gallu defnyddio systemau cronfeydd data ac yn gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at safon 2 gymhwyster Uwch Gyfrannol neu 1 cymhwyster Safon Uwch neu NVQ Lefel 3 mewn pwnc perthnasol (e.e. Gweinyddiaeth Busnes) neu brofiad cyfatebol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl a chyflawni tasgau megis ysgrifennu negeseuon e-bost yn Gymraeg i amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn hanfodol i’r swydd hon.
Bydd y swydd wedi ei lleoli ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Dynamig (https://www.bangor.ac.uk/humanresources/dynamicwork.php.cy), bydd opsiwn hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Allison Thomas, Uwch Swyddog - Gweinyddu Bywyd Myfyrwyr, Y Gofrestrfa: Cydymffurfiaeth, e-bost allison.thomas@bangor.ac.uk, Ffôn: 01248 38 2572
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.