Dewislen

Cynorthwywr Gweinyddu Myfyrwyr

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 10 Rhagfyr 2025
Cyflog: £24,334 i £26,338 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 05 Ionawr 2026
Lleoliad: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03715)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd

Cynorthwywr Gweinyddu Myfyrwyr

(Cyf: BU03715)

Graddfa 4: £24,334 - £26,338

Rydym yn chwilio am Gynorthwywr Gweinyddu Myfyrwyr rhagweithiol a threfnus i ymuno â Chyfarwyddiaeth Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd Prifysgol Bangor, yn darparu cefnogaeth weinyddol a chefnogaeth reng flaen o ansawdd uchel i fyfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau academaidd. Yn y swydd amrywiol hon, byddwch yn cadw cofnodion cywir, yn ymateb i ymholiadau yn y cnawd, dros y ffôn ac ar-lein, yn cynorthwyo gyda phrosesau arholiadau a dyfarnu, ac yn helpu trefnu digwyddiadau allweddol fel diwrnodau agored a graddio. Byddwch yn gweithio gydag eraill ar draws y brifysgol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n llyfn, gan gynnal dull proffesiynol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr bob amser. Mae hyfedredd wrth ddefnyddio Microsoft Office, sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus yn hanfodol. Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at gymuned gefnogol, ddwyieithog lle mae eich gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad myfyrwyr yn uniongyrchol.

Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg i safon TGAU, NVQ lefel III mewn pwnc priodol e.e. Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Weinyddu Busnes neu brofiad cyfatebol.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Gillian Griffith, Rheolwr Gweinyddu Myfyrwyr; e-bost g.griffith@bangor.ac.uk

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon