CYNORTHWYYDD GWEITHREDOL I'R PRIF SWYDDOG TÂN
| Dyddiad hysbysebu: | 01 Rhagfyr 2025 |
|---|---|
| Cyflog: | £37,280 i £38,220 bob blwyddyn |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 22 Rhagfyr 2025 |
| Lleoliad: | CF72 8LX |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | South Wales Fire and Rescue Service |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn chwilio am Gynorthwyydd Gweithredol
talentog a rhagweithiol i ymuno â'n tîm. Yn y rôl ganolog hon, byddwch yn darparu
cefnogaeth weinyddol ac ysgrifenyddol eithriadol i'r Prif Swyddog Tân (PST) a'u
Pennaeth Staff (PS), gan sicrhau bod eu diwrnodau'n rhedeg yn esmwyth ac yn
effeithlon. Gallai hefyd fod angen i ddeiliad y swydd ddarparu cefnogaeth weinyddol ac
ysgrifenyddol i aelodau eraill o'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol os bydd angen.
O fewn y rôl hon, bydd cyfrinachedd, trin gwybodaeth sensitif a gallu cydbwyso
blaenoriaethau, gan sicrhau bod ein Prif Swyddog Tân yn cael ei gefnogi'n llawn, yn
dod yn naturiol i chi. Gyda hanes profedig o ddarparu cefnogaeth weithredol a
gweinyddol lefel uwch i lefel Prif Weithredwr neu Gyfarwyddwr Bwrdd, byddwch yn dod
â phroffesiynoldeb, diplomyddiaeth a'r gallu i wneud y gwaith trwy gydlynu
gweithgareddau ar draws y tîm.
Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ac yn arwain y tîm Ysgrifenyddiaeth, sef y
Cynorthwywyr Personol i'r Tîm Arweinyddiaeth Uwch ehangach.