Dewislen

Culture Programme Co-ordinator

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 13 Tachwedd 2025
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 27 Tachwedd 2025
Lleoliad: Conwy County, Wales
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 1 diwrnod yr wythnos
Cwmni: Conwy County Borough Council
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: REQ006885

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Ydych chi’n credu ym mhŵer y celfyddydau a diwylliant i wella lles, cryfhau cymunedau, a sbarduno newid cymdeithasol?

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a dyfeisgar i ymuno â’n tîm Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth. Yn y swydd amrywiol hon, byddwch yn cydweithio â’r tîm Diwylliant ehangach ac amrywiaeth o bartneriaid mewnol ac allanol i ddylunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau sy’n dod â Strategaeth Creu Conwy’n fyw ac yn datblygu ei gweledigaeth, sef: Bod diwylliant yn sbardun ar gyfer twf economaidd, lles a chysylltiad.

Bydd gennych chi brofiad amlwg o gyflwyno rhaglen brysur o brosiectau a ariennir gan grantiau a dawn am feithrin perthnasoedd ystyrlon gyda chymunedau a budd-ddeiliaid. Bydd canfod anghenion lleol, dod â phobl a sefydliadau ynghyd, a chreu cyfleoedd i gydweithio yn ganolog i’r swydd hon.

Os ydych chi’n frwd dros lunio dyfodol diwylliannol Conwy a dangos sut y gall diwylliant wella bywydau, lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chefnogi twf economaidd, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Helen Jackson, Rheolwr Datblygu Diwylliant, 01492 574253, helen.jackson5@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.


Work base: Coed Pella

Do you believe in the power of arts and culture to improve wellbeing, strengthen communities and spark social change?

We’re seeking a dynamic and resourceful person to join our Culture, Libraries and Information team. In this varied role you will collaborate with the wider Culture team and a range of internal and external partners to design, deliver and evaluate projects that bring the Creu Conwy Cultural Strategy to life and advance its vision of: Culture creating the spark for economic growth, wellbeing and connection.

You will have proven experience of delivering a busy programme of grant-funded projects and a talent for building meaningful relationships with communities and stakeholders. Identifying local needs, bringing people and organisations together, and creating opportunities for collaboration will be central to this role.

If you’re passionate about shaping Conwy’s cultural future and demonstrating how culture can improve lives, reduce pressure on public services and support local economic growth, we’d love to hear from you.

For an informal chat about this role please contact: Helen Jackson, Culture Development Manager, 01492 574253, helen.jackson5@conwy.gov.uk

Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is essential for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon