Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Ddinbych a Fflint (cyfnod penodol)
Dyddiad hysbysebu: | 09 Hydref 2025 |
---|---|
Cyflog: | £13,365 i £15,372 bob blwyddyn |
Oriau: | Rhan Amser |
Dyddiad cau: | 21 Hydref 2025 |
Lleoliad: | Dinbych a Fflint |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Mudiad Meithrin Cyf |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Croesi’r Bont’.
• Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
• Trefnu ymweliadau rheolaidd i'r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad
• Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
• Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar ôl bob ymweliad.
• Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg
• Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
• Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin
• Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
• Cyd weithio’n agos gyda Chydlynydd Cefnogi Cylchoedd sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb.
• Mynychu cyfarfodydd tîm lleol yn ôl y galw, a chyfarfod Tîm cenedlaethol unwaith bob tymor.
• Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin
• Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
• Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd