Dewislen

Swyddog Clwb Cwtsh Casnewydd

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 24 Medi 2025
Cyflog: £24,200 i £27,835 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 22 Hydref 2025
Lleoliad: Casnewydd
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Mudiad Meithrin Cyf
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Y swydd a’r person: Prif gyfrifoldeb swyddog ‘Clwb Cwtsh’ fydd cydlynu, hyrwyddo, marchnata a chynnal sesiynau wyneb yn wyneb a/neu dros Microsoft ‘Teams’. Cwrs blasu Cymraeg ar lefel cyn-fynediad ydy Clwb Cwtsh. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu er mwyn ymgyfarwyddo â chynnwys y cwrs (fydd wedi’i baratoi eisoes). Bydd y swyddog yn mynd ati i hyrwyddo a marchnata’r cyrsiau’n lleol drwy gyfrwng taflenni a phosteri (fydd wedi eu darparu iddynt) a thrwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol. Bydd cefnogaeth ganolog ar gael gan y Prif Swyddogion a Rheolwr Clwb Cwtsh. Y prif waith yn ystod y cwrs (8-10 wythnos yn ddibynnol ar hyd y tymor ysgol) fydd cynnal y sesiynau a sicrhau fod y grŵp yn parhau i fynychu gan gynnal ‘Parti Dathlu’ fel y sesiwn grŵp terfynol. Ar ôl hynny, bydd cyfle i werthuso cynnydd a llwyddiant drwy gasglu barn y sawl fu ynghlwm â’r cynllun. Ni ragwelir fod angen cymhwyster tiwtor iaith ond fe fydd hynny’n amlwg yn fanteisiol.

Dyletswyddau’r Swydd

• Bod yn gyfrifol am drefnu, hyrwyddo ac arwain o leiaf dau gwrs ‘dysgu a defnyddio Cymraeg’ i rieni ac i’r teulu estynedig am gyfnod o 8-10 wythnos yn ystod bob 3 cymal 2025-2026. Darperir y cyrsiau yn y gymuned a trwy Microsoft Teams (mae nifer y sesiynau ym mhob cwrs yn dibynnu ar drefniadau tymor ysgol lleol).
• Trafod union ardaloedd daearyddol ble targedir y ddau (neu fwy) o gyrsiau gyda staff Mudiad Meithrin ar lawr gwlad.
• Sicrhau bod lleiafswm o 12 oedolyn ym mhob cwrs (a mwy os yn bosib).
• Sicrhau y defnyddir deunyddiau ac adnoddau crai'r cwrs thematig yn ystod y sesiynau.
• Creu grŵp ‘WhatsApp’ neu drwy e-bost/tecst i’r swyddog ymgysylltu â’r grŵp rhwng y sesiynau i rannu gair neu frawddeg neu osod tasg syml a hwyliog yn y cartref (un waith yr wythnos) gydag ymwadiadau data priodol.
• Cydweithio gyda Chydlynyddion Cefnogi Cylchoedd Mudiad Meithrin (a’r tîm taleithiol ehangach yn cynnwys swyddogion ‘Cymraeg i Blant’ a ‘Ti a Fi’) er mwyn tynnu ar arbenigedd a gwybodaeth staff o fewn timau taleithiol Mudiad Meithrin.
• Hyrwyddo a marchnata’r cyrsiau’n lleol drwy bob cyfrwng – y wasg, posteri, Facebook, Instagram ayyb.
• Sicrhau bod pob cofrestr ar wefan dysgucymraeg.cymru yn gywir a chyfredol.
• Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau gyda phartneriaid ‘Cwlwm’, y Mentrau Iaith leol a darparwyr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol lle bo’n addas i hyrwyddo’r cynllun.
• Mynychu sesiynau anwytho a hyfforddiant.
• Mynychu cyfarfodydd tîm Clwb Cwtsh.
• Unrhyw beth arall yn ôl disgresiwn Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon