Swyddog Datblygu Gofal Plant (Tymor Penodol)
Posting date: | 25 September 2025 |
---|---|
Hours: | Full time |
Closing date: | 15 October 2025 |
Location: | Bridgend, CF31 4WB |
Company: | Bridgend County Borough Council |
Job type: | Permanent |
Job reference: | 17904_CBC |
Summary
Job description
29.6 awr yr wythnos
Nodwch fod hon yn swydd sy'n gofyn am y Gymraeg
Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026, gydag estyniad posibl, yn amodol ar gyllid parhaus
A ydych yn weithiwr proffesiynol blynyddoedd cynnar myfyriol, medrus ac angerddol sydd â phrofiad amlwg o sicrhau canlyniadau o ansawdd i ddysgwyr ifanc drwy ddarparu amgylcheddau dysgu eithriadol ac addysgeg hynod effeithiol? A ydych yn chwilio am her broffesiynol newydd?
Mae'r Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn datblygu o ganlyniad i gynlluniau ehangu Llywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae gennym y capasiti i recriwtio yn ein tîm uchel ei barch o athrawon cynghori a swyddogion datblygu gofal plant.
Mae'r cyfle cyffrous hwn yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus rannu ei sgiliau, profiadau ac angerdd i gynorthwyo, heriol ac ysbrydoli cydweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a helpu i wella canlyniadau yn lleoliadau blynyddoedd cynnar Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd angen y canlynol arnoch er mwyn llwyddo yn y rôl hon:
Gwybodaeth ymarferol dda am ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol y sector, fel: Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru, y Cwricwlwm a threfniadau asesu ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a fframweithiau arolygu AGC ac Estyn
Profiad sylweddol o gyflwyno darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel, gan gynnwys plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Gallu rhoi tystiolaeth o effaith eich arweinyddiaeth ar ddatblygu cydweithwyr
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, diplomyddiaeth, doethineb, ac yn hawdd mynd atoch
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm amrywiol a llwyddiannus a chael effaith sylweddol ar ansawdd gofal ac addysg i blant ar draws amrywiaeth eang o leoliadau. Edrychwn ymlaen at gael eich cais.
Os hoffech wybod rhagor am y swydd cyn gwneud cais, cysylltwch â: Louise Waite ar 01656 642798 neu anfonwch e-bost at louise.waite@bridgend.gov.uk
Mae'r rôl yn gyfle i weithio'n hyblyg yn unol â gofynion y gwasanaeth. Gan fod elfen o weithio gartref yn cael ei chynnig fel rhan o'r rôl hon, bydd angen i chi sicrhau bod gennych gysylltiad dibynadwy â'r rhyngrwyd. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd y swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol teithio ar draws Pen-y-bont ar Ogwr ac felly mae trwydded yrru ddilys a'r defnydd o gar yn un o ofynion penodi.
Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 15 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 24 Hydref 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Proud member of the Disability Confident employer scheme