Tourism Content and Project Officer
Dyddiad hysbysebu: | 06 Awst 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 28 Awst 2025 |
Lleoliad: | Conwy, Conwy County |
Gweithio o bell: | Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Parhaol |
Cyfeirnod swydd: | REQ006739 |
Crynodeb
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd yng nghanol gogledd Cymru ar gyrion Parc Cenedlaethol trawiadol Eryri, yn awdurdod lleol sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn gyflogwr rhagorol sy’n arddel y weledigaeth o fod yn “Sir Flaengar sy’n Creu Cyfleoedd”.
Ydych chi’n unigolyn brwdfrydig, cymhellol sy’n gallu creu cynnwys ysgrifenedig, gweledol ac amlgyfrwng o ansawdd uchel ar gyfer platfformau digidol a phrint? Oes gennych chi brofiad o reoli neu gydlynu prosiectau?
Fel Swyddog Prosiect a Chynnwys Twristiaeth, byddwch chi’n chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu cynnwys sy’n ymgysylltu ac arddangos y gorau o’n rhanbarth a gweithredu prosiectau twristiaeth sy’n sbarduno twf y gyrchfan. Byddwch chi’n creu cynnwys ysgrifenedig, gweledol ac amlgyfrwng cymhellol wrth reoli gwaith cynllunio a darparu prosiectau sy’n hyrwyddo atyniadau, digwyddiadau a phrofiadau lleol.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ac rydym yn annog ymgeiswyr sy’n rhugl yn y Gymraeg.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn creadigol sydd ag angerdd am dwristiaeth a sgiliau cryf wrth reoli prosiectau. Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda’n tîm marchnata, budd-ddeiliaid lleol a phartneriaid allanol i ddarparu mentrau effeithiol a gwella enw da’r gyrchfan.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jasmin Ryan, Rheolwr Twristiaeth ac Adfywio (Jasmin.ryan@conwy.gov.uk / 01492 575950)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Conwy Business Centre / Coed Pella / Hybrid
Situated at the heart of North Wales on the edge of the stunning Snowdonia National Park, Conwy County Borough Council is an award winning local authority and excellent employer which lives by its vision of being a “Progressive County, Creating Opportunity”.
Are you an enthusiastic, motivated individual who has the ability to produce high-quality written, visual, and multimedia content for digital and print platforms? Do you have experience in managing or coordinating projects?
As the Tourism Content and Project Officer, you will play a key role in developing engaging content that showcases the best of our region and executing tourism projects that drive the destination’s growth. You will create compelling written, visual, and multimedia content while managing the planning and delivery of projects that promote local attractions, events, and experiences.
As the team works in a bilingual area the ability to communicate in English is essential and Welsh desirable. We actively encourage applicants with Welsh fluency.
This is an exciting opportunity for a creative individual with a passion for tourism and strong project management skills. You will work closely with our marketing team, local stakeholders, and external partners to deliver high-impact initiatives and enhance the destination’s reputation.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Jasmin Ryan, Tourism and Regeneration Manager (Jasmin.ryan@conwy.gov.uk / 01492 575950)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd