Menu

Behaviour Support Officer – Ysgol Bro Pedr

Job details
Posting date: 28 July 2025
Salary: £34,314.00 to £36,124.00 per year, pro rata
Hours: Full time
Closing date: 06 August 2025
Location: Ceredigion, Wales
Remote working: On-site only
Company: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Job type: Permanent
Job reference: REQ106169

Apply for this job

Summary

Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.

The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.

Mae Ysgol Bro Pedr yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da i ymgymryd â’r swydd Swyddog cefnogi ymddysgiad.

Dyddiad cyfweliadau 13ain o Awst 2025.

Ysgol dwyieithog yw Ysgol Bro Pedr a rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o’r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae 960 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol – 321 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 639 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy’n cynnwys 79 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 55 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).

Daw 69.4% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle na defnyddir y Gymraeg. Mae’r disgyblion yn cael eu ffrydio’n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae’r
ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy’n golygu bod ein disgyblion Dysgu Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.5% o’n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.97% o’n disgyblion oed uwchradd a 31.7% o’n disgyblion oed cynradd). Ar hyn o bryd, mae 15 o ddisgyblion sydd mewn gofal yn mynychu ein hysgol ac mae 16 o ddisgyblion yr ysgol yn ofalwyr ifanc. Hefyd, mae 10.1% o’n disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r ganran yn is o fewn yr oed cynradd (9.03%) o’i gymharu â’r oed uwchradd (10.64%). Rydym yn falch iawn o’n cymuned cynhwysol yn Ysgol Bro Pedr a rydym yn darparu’n llwyddiannus ar gyfer ystod lawn o alluoedd a chefndiroedd.

Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle’r ysgol. Mae’r ganolfan yn rhan lawn o’r ysgol, ac mae’r disgyblion ar rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd uned Sgiliau Bywyd sy’n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chynigai barhad a dilyniant i rai o ddisgyblion Canolfan y Bont lle’n berthnasol ac ymarferol. Mae yna 11 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 21 o ddisgyblion yn mynychu Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.

Mae Tîm Arwain Ysgol Bro Pedr yn cynnwys: Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, dau Bennaeth Cynorthwyol, Arweinydd Lles ac Arweinydd Cynnydd.

Gweler ein gwefan gyrfaoedd i weld y Pecyn Gwybodaeth.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job