Dewislen

Teaching Assistant Level 2 – Cenarth Primary School

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 07 Gorffennaf 2025
Cyflog: £24,404.00 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 13 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Ceredigion, Wales
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: REQ106142

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.

The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.

Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo ni i gefnogi ein disgyblion ar gytundeb llawn amser am flwyddyn i gychwyn.

Lleolir Ysgol Cenarth, ym mhentref Cenarth, Ceredigion. Mae 86 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae’r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda’r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol i ymuno a thîm llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer disgyblion yr ardal.

Fe fydd gofyn i chi:
- oruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu;
- sefydlu perthynas adeiladol gyda’r disgyblion, gan ryngweithio yn unol â’u hanghenion unigol;
- herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth;
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes;
- cynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol;

Rydym am benodi unigolyn sydd â:
- sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a’r Saesneg;
- sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
- dealltwriaeth gyffredinol o’r cwricwlwm cenedlaethol / cyfnod Sylfaen a rhaglenni / strategaethau dysgu sylfaenol eraill;
- gweithio’n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau’r ystafell ddosbarth a’ch safle personol o fewn y swyddogaethau hynny;
- CGC3 i Gynorthwywyr Dosbarth, cymwysterau neu brofiad cyffelyb.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.

I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus.

Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mr Lee Burrows ar 01239 710060 neu ebostiwch burrowsj8@hwbcymru.net

Gweler ein gwefan gyrfaoedd i weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon