Dewislen

SWYDDOG CYNLLUNIO, PERFFORMIAD A RISG

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 27 Mehefin 2025
Cyflog: £37,938 i £38,626 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 18 Gorffennaf 2025
Lleoliad: CF72 8LX
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

1x PARHAOL ac 1x12MIS CLl A

Fel rhan o'r Tîm Cynllunio, Perfformiad a Risg, mae’s rol yn gyfrifol am ddatblygiad a gwelliant parhaus ein prosesau a'n strategaethau sefydliadol sy'n ymwneud â Chynllunio Busnes, Rheoli Perfformiad, Risg, Archwilio a Rheoli Prosiectau.
• Bydd un ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Ystadegau a Risg i ddyfeisio Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) ar gyfer y sefydliad – i ddechrau, bydd y prosiect yn cynnwys gweithio gydag ymgynghorwyr allanol i adeiladu model yn seiliedig ar risg ar gyfer De Cymru yn ogystal â chynnal adolygiad o risgiau’r dyfodol i gymunedau De Cymru. Bydd yr unigolyn yn drafftio’r adroddiad Cynllun Rheoli Risg Cymunedol terfynol ac yn gweithio i sicrhau y gellir monitro cynnydd parhaus y Gwasanaeth yn erbyn yr holl flaenoriaethau a nodwyd.
• Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus arall yn arwain blaenoriaeth y Gwasanaeth sef cyflwyno system fwy cadarn ar gyfer adnabod, asesu a lliniaru risg i’r sefydliad – mae’r Gwasanaeth yn edrych i weithredu System Rheoli Risg a dull o gofnodi a dogfennu risgiau a sut maent yn cael eu rheoli o fewn meysydd cyfrifoldeb. Bydd System Rheoli Risg yn galluogi'r Gwasanaeth i adnabod yn glir berchnogaeth risg, lliniaru, cyflymder a llwybrau uwchgyfeirio/isgyfeirio.
Byddwch yn rhagweithiol ac yn llawn cymhelliant, yn gallu meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ill ddau ar bob lefel i roi cyngor a chymorth. Bydd gennych brofiad o gynllunio strategol a rheoli prosiectau/newid er mwyn sicrhau gwelliant mesuradwy yn y gwasanaeth, gan weithio gyda'r Rheolwr Ymgysylltu a'r Cyhoedd (PPR) i nodi a gweithredu atebion. Byddwch yn helpu i ddatblygu ein fframweithiau a systemau i sicrhau ein bod yn cyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau statudol a chynlluniau’r Gwasanaeth.

Gwneud cais am y swydd hon