Dewislen

Dirprwy Brif Swyddog Tân

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 10 Mehefin 2025
Cyflog: £139,729 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 02 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Llantrisant, Pontyclun
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Rydym yn chwilio am arweinydd strategol gyda hanes cryf profedig o arweinyddiaeth weladwy a thrawsnewidiol o fewn amgylchedd deinamig. Mae gallu cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol yn allweddol ynghyd â phrofiad eang ac amrywiol. Bydd angen i ddarpar ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth drylwyr o swyddogaethau'r Gwasanaeth Tân ac Achub a'r materion sy'n wynebu'r Gwasanaeth yng Nghymru a'r DU.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r Gwasanaeth wrth i ni barhau â'n rhaglen o newid diwylliannol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth weithredu'r argymhellion adroddiad HMICFRS a gyhoeddwyd yn ddiweddar, adolygiad Fenella Morris CB ac adroddiadau’r Prif Ymgynghorydd Tân ac Achub.

Bydd sgiliau cryf ar gyfer cynllunio, trefnu ac ymgysylltu â phobl yn hollbwysig, yn ogystal â sgoliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i feithrin cydberthnasau cryf a sgiliau rhwydweithio. Bydd hyn yn hanfodol i gynnal cyfarwyddiaeth effeithiol, cynghori'r Prif Swyddog Tân a'r Comisiynwyr ar lefel strategol a chefnogi cydweithio â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau tân ac achub eraill a sefydliadau partner.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gyrfa o fewn sefydliad blaengar, gan arwain adrannau cymhleth sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau De Cymru bob dydd.

Bydd cymorth adleoli ar gael

Gwneud cais am y swydd hon