Dewislen

Hyfforddwr Cadetiaid Tân

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 16 Mehefin 2025
Cyflog: £14.27 yr awr
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 07 Gorffennaf 2025
Lleoliad: cf72 8lx
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn Canol Dydd 07.07.2025
Cadetiaid Tân yw gweithgaredd ieuenctid blaenllaw Gwasanaeth Tân ac Achub De
Cymru ar gyfer unigolion 13 – 16 oed. Mae'r rhaglen yn cynnig cipolwg unigryw ar
weithio o fewn gwasanaeth brys i bobl ifanc. Rydym yn cynnig cyfleoedd cynhwysol
hwyliog a heriol i bobl ifanc ac yn gweithio i ddatblygu sgiliau personol a hymdeithasol trwy weithgareddau sy’n hybu hunanddisgyblaeth, gwaith tîm a dinasyddiaeth. Mae'r rhaglen yn cynnig y cyfle i ennill gwobrau a gweithio tuag at ennill cymhwyster cydnabyddedig.
Ar hyn o bryd mae GTADC yn cynnal 12 uned Cadetiaid Tân. Fel hyfforddwr Cadetiaid Tân, bydd gofyn i chi gefnogi a mentora pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u datblygiad personol i’w galluogi i ddod yn fodelau rôl effeithiol yn y gymuned a symud ymlaen yn gadarnhaol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
pellach.
Mae hyfforddwyr Cadetiaid Tân yn cefnogi’r Cadetiaid Tân trwy amrywiaeth o ddulliau dysgu, gan gynnwys gwaith papur sy’n gysylltiedig â’r cymhwyster ac ystod o weithgareddau maes ymarfer sylfaenol i ddiffoddwyr tân. Yn ystod eich amser yn y rôl hon, byddwch yn cael eich cefnogi gan Reolwr Uned a'r cyfle ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau perthnasol.
Fel Hyfforddwr Cadetiaid Tân, mae cyfle i weithio mewn gwahanol orsafoedd, ar
nosweithiau gwahanol. Mae’r rhaglen yn cydfynd â’r flwyddyn academaidd ysgol gyda’r opsiwn ychwanegol o gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, digwyddiadau elusennol, gwersylloedd, cystadlaethau a theithiau cymdeithasol yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau.
PROFFIL SWYDD
• Cyflog: £14.27 yr awr
• Mae contractau unigol ar gael am 50 awr, 75 awr a 100 awr y flwyddyn gyda'r oriau dros gyfnod o uchafswm o 40 wythnos y flwyddyn.
• Adran: Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau
Aberbargoed – Dydd Mawrth
Y Fenni – Dydd Iau
Y Barri – Dydd Mawrth
Pen -y-bont ar Ogwr – Dydd
Mawrth
Caerffili – Dydd Mawrth
Cwmbrân – Dydd Mawrth
Trelái – Dydd Mawrth
Malpas – Dydd Llun
Merthyr Tudful – Dydd
Mawrth
Y Rhath – Dydd Llun
Tonypandy – Dydd Iau
Tredegar – Dydd Llun
*Gallai’r dyddiau hyn newid*
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Hyfforddwyr Cadetiaid Tân,
i ddechrau ym mis Medi.
Am ragor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â naill ai:
Steve Gallagher: S-Gallagher@decymru-tan.gov.uk / 07769135738
neu
Chris Munday: c-munday@decymru-tan.gov.uk / 07796356757

Gwneud cais am y swydd hon