Food Health and Safety Technical Officer
Dyddiad hysbysebu: | 12 Mehefin 2025 |
---|---|
Oriau: | Llawn Amser |
Dyddiad cau: | 12 Gorffennaf 2025 |
Lleoliad: | Conwy, Conwy County |
Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
Cwmni: | Conwy County Borough Council |
Math o swydd: | Dros dro |
Cyfeirnod swydd: | REQ006629 |
Crynodeb
Y Tîm:
Mae’r Tîm Diogelwch Bwyd / Iechyd a Diogelwch yn wasanaeth rheng flaen prysur sy’n gyfrifol am ddarparu diogelwch bwyd, rheoli clefydau trosglwyddadwy, iechyd a diogelwch a swyddogaethau trwyddedu triniaethau arbennig.
Y Rôl:
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â’n tîm ar gontract cyfnod penodol o 2 flynedd i ymgymryd ag ystod o waith gorfodi safonau a hylendid bwyd, yn ogystal ag ymchwilio i hysbysiadau o glefydau trosglwyddadwy a cheisiadau gwasanaeth.
Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu rhagorol, byddwch yn gweithio’n dda fel rhan o dîm a bydd gennych brofiad o weithio mewn rôl diogelwch bwyd ac o ddelio ag amrywiaeth eang o bobl a sefyllfaoedd mewn modd proffesiynol.
Bydd angen i ymgeiswyr fod â Thystysgrif Uwch mewn Rheoli Bwyd wedi’i ddyfarnu gan Fwrdd Cofrestru Iechyd yr Amgylchedd (EHRB) neu Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) neu gymhwyster cyfatebol fel y nodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Bydd angen trwydded yrru lawn y DU arnoch a’r defnydd o gar at ddibenion gwaith.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Victoria Stevenson (Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd) ar victoria.stevenson@conwy.gov.uk
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Victoria Stevenson, Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ( victoria.stevenson@conwy.gov.uk / 01492 575218)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Work base: Coed Pella
The Team:
The Food Safety / Health and Safety Team is a busy front line service responsible for the delivery of the food safety, communicable disease, health and safety and special procedures licensing functions.
The Role:
We are looking for a highly motivated and passionate individual to join our team on a 2 year fixed term contract to undertake a range of food hygiene and standards enforcement work, as well as the investigation of communicable disease notifications and service requests.
You will need excellent communication skills, be a great team player and have experience of working in a food safety role and dealing with a wide range of people and situations in a professional manner.
Applicants/candidates will need to have a Higher Certificate in Food Control awarded by the Environmental Health Registration Board (EHRB) or the Chartered Institute of Environmental Health (CIEH), or an equivalent qualification as specified by the Food Standards Agency.
You will need a full UK driving licence and use of a car while at work.
For an informal discussion please contact Victoria Stevenson (Principal Environmental Health Officer) victoria.stevenson@conwy.gov.uk
Manager details for informal discussion: Victoria Stevenson, Principal Environmental Health Officer (victoria.stevenson@conwy.gov.uk / 01492 575218)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd