Dewislen

Gweinyddwr Lleoliadau Proffesiynol (Cyfnod Mamolaeth)

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 21 Ebrill 2026
Cyflog: £26,942 i £29,959 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 06 Mai 2026
Lleoliad: LL57 2DG – opsiwn i dreulio peth amser yn gweithio o bell a drafodir ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03990)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd

Gweinyddwr Lleoliadau Proffesiynol (Cyfnod Mamolaeth)

Hyd y Contract: 01/06/2026 - 31/05/2027

(Cyf: BU03990)

Graddfa 5: £26,942 - £29,959 y flwyddyn

Rydym yn awyddus i benodi Gweinyddwr Lleoliadau Proffesiynol a fydd yn gweithio fel aelod o'r tîm Lleoliadau Proffesiynol i roi cefnogaeth effeithiol i'r ddarpariaeth lleoliadau ar draws y rhaglenni proffesiynol.

Bydd y swydd hon dros gyfnod mamolaeth ar gael o 1 Mehefin 2026 tan 31 Mai 2027 ar sail llawn amser (36.25 awr yr wythnos).

Byddwch yn meddu ar addysg i safon TGAU neu NVQ lefel III mewn pwnc priodol, e.e. gwasanaeth cwsmeriaid neu weinyddiaeth busnes, neu brofiad cyfatebol. Bydd gennych sgiliau rhagorol ym maes technoleg gwybodaeth, cyfathrebu a threfnu a byddwch yn gallu cwrdd â therfynau amser, a gwneud gwaith cywir a rhoi sylw i fanylion.

Bydd profiad o weithio gyda systemau'r brifysgol megis Banner a phrofiad o weithio gyda systemau cronfeydd data yn fanteisiol.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865 neu anfon e-bost i hrassistants@bangor.ac.uk.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Vanessa Williams, Swyddog Lleoliadau Proffesiynol; e-bost: v.williams@bangor.ac.uk

Ffôn: 01248 388785.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 6 Mai, 2026.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon