Nyrs Meithrinfa
| Dyddiad hysbysebu: | 22 Ebrill 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | £23,815 i £23,881 bob blwyddyn, pro rata |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 10 Mai 2026 |
| Lleoliad: | Bangor, Gwynedd |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Bangor University |
| Math o swydd: | Parhaol |
| Cyfeirnod swydd: | (Cyf: BU03994) |
Crynodeb
Prifysgol Bangor
Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gwasanaethau Campws: Y Feithrinfa
Nyrs Meithrinfa
(Cyf: BU03994)
Graddfa 3: £23,815 - £23,881 y flwyddyn pro rata
Rydym yn awyddus i benodi Nyrs Meithrinfa ar sail barhaol a rhan amser (32 awr yr wythnos) i ymuno â'r tîm ym meithrinfa Tir Na Nog.
Bydd prif gyfrifoldebau'r swydd Nyrs Meithrinfa yn cynnwys:
Cyfrannu at safon uchel o ofal corfforol, emosiynol, cymdeithasol a deallusol i blant yn y ganolfan gofal dydd.
Rhoi cefnogaeth i staff eraill yn y ganolfan gofal dydd.
Gweithredu'r drefn ddyddiol sy'n briodol i'r ystafell neilltuol yn y Feithrinfa, er enghraifft ystafell y babanod.
Dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau lefel 2 ym maes gofal, dysgu a datblygiad plant, a bod yn barod i weithio tuag at lefel 3. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gofal plant ac agwedd gadarnhaol at eu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn hanfodol.
Disgwylir i ymgeiswyr hefyd fod â gwybodaeth a pheth dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd a diogelwch a hylendid bwyd yn y gwaith.
Mae’r swydd yn amodol ar gliriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
I wneud ymholiadau anffurfiol, ffoniwch y Feithrinfa ar (01248) 388383.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.