Dewislen

Cynorthwyydd Caffael i Dalu (P2P)

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 03 Mawrth 2026
Cyflog: £27,694 i £28,598 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 24 Mawrth 2026
Lleoliad: CF72 8LX
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: South Wales Fire and Rescue Service
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: 505012

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr Adran Gyllid, Caffael ac Eiddo a leoliri ym Mhencadlys
y Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant ar gyfer rôl Cynorthwyydd Caffael
i Dalu (P2P).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau bod gan y Gwasanaeth wasanaeth
caffael effeithlon ac effeithiol, prosesu archebion a gwneud taliadau i gyflenwyr. Bydd yr
ymgeisydd yn gyfrifol am gysylltu â chwsmeriaid mewnol a chyflenwyr allanol ill ddau wrth
ddatrys unrhyw broblemau gydag archebu, dosbarthu a thalu anfonebau. Bydd gofyn i chi
hefyd ymchwilio a threfnu trefniadau teithio a llety priodol ar gyfer aelodau'r Gwasanaeth
Tân.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gall y rôl hon gynnwys teithio rhwng safleoedd ledled ardal De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd
llwyddiannus allu teithio'n annibynnol, a bydd angen gwiriad trwydded yrru.

Gwneud cais am y swydd hon