Dewislen

Cynorthwyydd Manwerthu

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 13 Chwefror 2026
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
Oriau: Rhan Amser
Dyddiad cau: 15 Mawrth 2026
Lleoliad: LL49 9NF
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Festiniog Railway Company
Math o swydd: Dros dro
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o reilffyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, wedi’u lleoli yng nghanol harddwch Eryri. Mae gennym drenau yn rhedeg bob dydd o ddiwedd mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Hydref.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, sydd yn fodlon gweithio’n galed i ymuno â’n tîm masnachol i weithio yn ein Siop ym Mhorthmadog.

Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• Contract tymhorol rhwng 23ain o Mawrth 2026 i’r 31ain o Hydref 2026
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.

Mae'r rôl hon yn cynnwys gweini ar gwsmeriaid, trin arian ac ateb ymholiadau teithwyr. Bydd rhywfaint o waith trin â llaw yn gysylltiedig â symud stoc o storfeydd i wahanol leoliadau manwerthu. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus weithio yng ngorsaf Beddgelert hefyd yn gwerthu tocynnau a chofroddion i deithwyr. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd manwerthu o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

Sgiliau Craidd:
• Chwaraewr Tîm
• Sgiliau Cyfathrebu Da
• Sgiliau TG sylfaenol, llythrennedd a rhifedd da
• Y gallu i weithio'n lân ac yn daclus
• Profiad mewn rôl Blaen Tŷ / manwerthu yn ddymunol
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a'u teithwyr; a'r ardal leol.

Byddai'r ymgeisydd delfrydol yn hyblyg ac yn gallu gweithio sifftiau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos, gan gynnwys penwythnosau. Efallai y bydd y swydd hon yn gofyn am weithio ar eich pen eich hun ar adegau. Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr weithio mewn lleoliadau nad ydynt yn hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, felly byddai trwydded yrru lawn a/neu fynediad at drafnidiaeth breifat yn fantais.

Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swyddi hyn yr hawl i weithio yn y DU ar hyn o bryd.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon