Menu

Cynorthwyydd Swyddfa Archebu

Job details
Posting date: 12 February 2026
Salary: Not specified
Additional salary information: Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
Hours: Part time
Closing date: 14 March 2026
Location: LL49 9NF
Remote working: On-site only
Company: Festiniog Railway Company
Job type: Temporary
Job reference:

Apply for this job

Summary

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yw dwy o reilffyrdd treftadaeth fwyaf poblogaidd y DU, wedi’u lleoli yng nghanol prydferthwch Eryri. Rydym yn gweithredu trenau bob dydd o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Hydref.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n fodlon gweithio’n galed ac yn frwdfrydig, i ymuno â’n tîm sy’n gweithio yn ein Swyddfa Archebu ym Mhorthmadog.

Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran yn berthnasol
• Contract tymhorol rhwng 21ain o Mawrth 2026 i’r 31ain o Hydref 2026
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestru i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.

Swydd weinyddol yw hon yn bennaf, gyda dyletswyddau'n cynnwys cymryd archebion dros y ffôn, prosesu archebion ac ateb ymholiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy e-bost. Bydd gweithio ar y cownter hefyd yn cael ei gynnwys; cyfarch cwsmeriaid, gwerthu tocynnau a rhoi gwybodaeth hefyd; felly byddai profiad o drin arian parod yn ddefnyddiol. Byddai profiad o weithio mewn rôl debyg o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â gweithio gyda systemau cyfrifiadurol ac e-bost.

Sgiliau Craidd:
• Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol da
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Profiad o weithio mewn rôl weinyddol yn ddymunol
• Ymddangosiad smart yn dilyn cod gwisg
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a'u teithwyr; a'r ardal leol.

Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swyddi hyn yr hawl i weithio yn y DU ar hyn o bryd.

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job