Cynorthwyydd Swyddfa Archebu
| Dyddiad hysbysebu: | 12 Chwefror 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | Heb ei nodi |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran |
| Oriau: | Rhan Amser |
| Dyddiad cau: | 14 Mawrth 2026 |
| Lleoliad: | LL49 9NF |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | Festiniog Railway Company |
| Math o swydd: | Dros dro |
| Cyfeirnod swydd: |
Crynodeb
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n fodlon gweithio’n galed ac yn frwdfrydig, i ymuno â’n tîm sy’n gweithio yn ein Swyddfa Archebu ym Mhorthmadog.
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran yn berthnasol
• Contract tymhorol rhwng 21ain o Mawrth 2026 i’r 31ain o Hydref 2026
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestru i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.
Swydd weinyddol yw hon yn bennaf, gyda dyletswyddau'n cynnwys cymryd archebion dros y ffôn, prosesu archebion ac ateb ymholiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy e-bost. Bydd gweithio ar y cownter hefyd yn cael ei gynnwys; cyfarch cwsmeriaid, gwerthu tocynnau a rhoi gwybodaeth hefyd; felly byddai profiad o drin arian parod yn ddefnyddiol. Byddai profiad o weithio mewn rôl debyg o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â gweithio gyda systemau cyfrifiadurol ac e-bost.
Sgiliau Craidd:
• Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol da
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Profiad o weithio mewn rôl weinyddol yn ddymunol
• Ymddangosiad smart yn dilyn cod gwisg
• Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a'u teithwyr; a'r ardal leol.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swyddi hyn yr hawl i weithio yn y DU ar hyn o bryd.
Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd