Menu

Gwesteiwr ‘Cyfarfod a Chyfarch’ Maes Parcio

Job details
Posting date: 12 February 2026
Salary: Not specified
Additional salary information: Cyflog Byw Cenedlaethol
Hours: Part time
Closing date: 14 March 2026
Location: LL49 9NF
Remote working: On-site only
Company: Festiniog Railway Company
Job type: Temporary
Job reference:

Apply for this job

Summary

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ddau o reilffyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, wedi'u lleoli yng nghanol harddwch Eryri. Ein gorsaf brysuraf yw Gorsaf yr Harbwr, ym Mhorthmadog, lle mae llawer o'n teithwyr yn dechrau ac yn gorffen eu teithiau gyda ni.

Mae cwrdd â'n teithwyr a'u cyfarch yn rhan bwysig o Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar a brwdfrydig i ymuno â'n tîm ymroddedig o westeion yng Ngorsaf yr Harbwr.

Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol
• Contract tymhorol rhwng 21ain o Mawrth 2026 i’r 31ain o Hydref 2026
• Shifftiau 7 awr 3 neu 4 diwrnod yr wythnos
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestru i gynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis

Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ym maes parcio'r orsaf. Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys cyfarch ymwelwyr â'r orsaf, rheoli'r maes parcio o ddydd i ddydd, cyfeirio teithwyr i'r maes parcio ychwanegol, cynorthwyo bysiau gyda pharcio a rhoi gwybodaeth am y rheilffyrdd a'r dref i ymwelwyr.

Sgiliau Craidd:
• Swydd ‘Blaen y Tŷ’ felly mae natur siriol a chymwynasgar yn hanfodol
• Rhaid bod yn gyflwyniadwy ac yn hawdd mynd ato bob amser
• Ymddangosiad smart gan ddilyn y cod gwisg
• Gallu cyfleu gwybodaeth mewn modd clir a chyfeillgar
• Mae angen trwydded yrru lawn, lân ar gyfer y swydd hon i yrru cerbydau’r Cwmni
• Mae dealltwriaeth o symud cerbydau mewn mannau bach yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon
• Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn
• Mae gwybodaeth am leoliadau ar y Rheilffyrdd a’u defnydd gan ymwelwyr yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
• Mae gwybodaeth am Borthmadog a’r cyffiniau yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Rhaid i ymgeiswyr am y swydd hon fod yn 25 oed neu'n hŷn a bod â'r hawl bresennol i weithio yn y DU.

Proud member of the Disability Confident employer scheme

Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident.

Apply for this job