Dewislen

Prif Swyddog Tegwch, Gwrth Hiliaeth a Pherthyn

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 30 Ionawr 2026
Cyflog: £32,712 i £35,641 bob blwyddyn, pro rata
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 11 Chwefror 2026
Lleoliad: Wales, UK
Gweithio o bell: Hybrid - gweithio o bell hyd at 4 ddiwrnod yr wythnos
Cwmni: Mudiad Meithrin Cyf
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd:

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i arwain a chydlynu gwaith tegwch, gwrth hiliaeth a pherthyn Mudiad Meithrin yn genedlaethol a chydweithio i wreiddio tegwch, gwrth hiliaeth a pherthyn yng ngwasanaethau ein aelodau (Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd).

Bydd y Prif Swyddog Tegwch, Gwrth Hiliaeth a Pherthyn, yn adeiladu ac yn cynnal perthynas a chysylltiadau gyda grwpiau a chymunedau tan-gynrychioledig amrywiol, boed yn unigolion, deuluoedd neu bartneriaid, gan sicrhau bod gwasanaethau Mudiad Meithrin a Gofal ac Addysg Gymraeg ar gael i bob plentyn a’i deulu beth bynnag bo’i anghenion neu gefndir.

Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill.

Aelod balch o'r cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd
Yn gyffredinol, bydd cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy'n datgan eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd fel y diffinnir gan y cyflogwr. Mae'n bwysig nodi, mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio fel nifer fawr o ymgeiswyr, cyfnod tymhorol ac amseroedd prysur iawn, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y niferoedd cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Am fwy o fanylion ewch i Hyderus o ran Anabledd.

Gwneud cais am y swydd hon