Dewislen

Goruchwyliwr Diogelwch

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 15 Ionawr 2026
Cyflog: £26,942 i £29,959 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2026
Lleoliad: Bangor, Gwynedd
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: (Cyf: BU03927)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Gwasanaethau Myfyrwyr ac Academaidd: Gwasanaethau Campws: Diogelwch

Goruchwyliwr Diogelwch

(Cyf: BU03927)

Graddfa 5: £26,942 - £29,959 y flwyddyn


Mae Prifysgol Bangor yn awyddus i benodi Goruchwyliwr Diogelwch parhaol, llawn amser i oruchwylio gweithrediadau dyddiol tîm Diogelwch y Brifysgol.

Mae’r tîm Diogelwch yn cadw mewn cyswllt â staff, myfyrwyr ac ymwelwyr ac yn sicrhau diogelwch y campws 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn trwy fynd ar batrôl yn y cnawd, monitro o bell a chynnal tair swyddfa ddiogelwch.

Gan fod y dyletswyddau'n amrywio o gynnig cefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr preswyl i sicrhau diogelwch gwesteion pwysig, mae rôl y tîm Diogelwch ym Mhrifysgol Bangor yn amrywio o ddydd i ddydd a byddai'n addas i unigolyn sy'n ceisio symud ymlaen yn y diwydiant Diogelwch.

Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at safon 2 gymhwyster Uwch Gyfrannol neu 1 cymhwyster Safon Uwch neu NVQ Lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol neu fod â phrofiad cyfatebol mewn swydd debyg.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â bosib.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Mae’r swydd hon yn amodol ar gael gwiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 31 Ionawr, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Adam Lavender, Rheolwr Diogelwch ac Ymateb, e-bost: a.lavender@bangor.ac.uk, ffôn: 01248 351151.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon