Dewislen

Cynorthwyydd yr Hyb

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 12 Ionawr 2026
Cyflog: £24,334 i £26,338 bob blwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 25 Ionawr 2026
Lleoliad: Bangor, Gwynedd
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: Bangor University
Math o swydd: Parhaol
Cyfeirnod swydd: Cyf: (BU03924)

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Prifysgol Bangor

Cynorthwyydd yr Hyb

Cyf: (BU03924)

Graddfa 4: £24,334 - £26,338


Gwnewch wahaniaeth i brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Rydym yn chwilio am Weinyddwr brwdfrydig a threfnus i ymuno â thîm Gweinyddu’r Hyb ar sail barhaol a llawn amser. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr lle bydd eich cyfraniad yn helpu i lunio profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.

Fel Cynorthwyydd yr Hyb byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol hanfodol ar draws ystod o weithgareddau, gan gyfrannu yn enwedig at ddarparu gwasanaethau yn yr Hyb, ymdrin yn effeithlon ac yn broffesiynol ag ymholiadau gan fyfyrwyr, a helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn cefnogaeth glir, amserol a chyfeillgar.

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn sydd â sgiliau trefnu rhagorol a llygad craff am fanylion ac a fyddai'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm sy'n darparu gwasanaeth cwsmer o ansawdd uchel. Dylech fod yn gyfforddus yn ymdrin â thasgau gweinyddol arferol ac yn rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a dylech allu cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol ag ystod eang o bobl. Byddai rhywun sydd â phrofiad o ymdrin ag ymholiadau a darparu gwybodaeth i fyfyrwyr a staff academaidd yn cael ei ffafrio.

Dylai ymgeiswyr fod ag o leiaf 5 cymhwyster TGAU gyda graddau A* - C (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn Chwefror 2026.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 25 Ionawr, 2026.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Claire Walton, Uwch Swyddog: Yr Hyb; e-bost c.walton@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 388509.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Gwneud cais am y swydd hon